Mentrwch e-feicio!

Mae croeso i chi ymuno a Grŵp e-feic Mynyddoedd y Cambrian i weld cefn gwlad ar ei orau! 

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
Harbwr-1

Harbwr Aberystwyth

Argae Cwm Rheidol
Rhaeadr Cwm Rheidol
TroedrhiwsebonDafydd Evans

Grŵp e-feic Mynyddoedd y Cambrian ar Facebook

Mae cynnydd sylweddol wedi’i weld yn y defnydd o e-feiciau dros y degawd diwethaf. Ac mae’r Coronafeirws ychwanegu at y twf hwn.

Cyclemart yng Nghilcennin oedd y siop feiciau gyntaf yng Ngheredigion i werthu’r math yma o feic, a hynny yn ôl yn 2005, er mai yn 2010 y datblygodd y farchnad go iawn iddynt. Ers iddynt fraenaru’r tir, mae Summit Cycles – ac yn gymharol ddiweddar Afan Outdoor Leisure – yma yn Aberystwyth wedi bod yn gwerthu’r beiciau hyn.

Beiciau mynydd oedd llawer o’r e-feiciau cynnar ond bellach mae beiciau ffordd, graean ac amlbwrpas ar gael efo modur trydan i gynorthwyo’r seiclo. Gan amlaf, gallwch ddewis o bedwar neu bum lefel cymorth gan y modur, yn amrywio o ddim i ‘tyrbo’!

Mae’r pellter y medrwch fynd ar y beiciau hyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau. Mae’r rhain yn cynnwys pŵer y batri, faint o gymorth rydych yn ei ddefnyddio, pwysau’r beic a’r un sydd arno, ynghyd â faint o riwiau neu fynyddoedd sydd ar y daith. Ar gyfartaledd mae’r beiciau mwyaf diweddar yn galluogi tua 40 milltir o seiclo gyda chymorth, ac mae’n bosib cael tua 80 milltir drwy ychwanegu ail fatri!

Yn ddiweddar ffurfiwyd grŵp Facebook https://www.facebook.com/groups/765679717658078 ar gyfer rhai sy’n defnyddio e-feic yn ardal Mynyddoedd y Cambrian (Ceredigion, gogledd Sir Gâr, gorllewin Powys a de Gwynedd).

Mae Grŵp e-feic Mynyddoedd y Cambrian yn hafan i rannu profiadau, cwrdd ag e-feicwyr eraill, rhannu a chanfod teithiau. Mae amryw o’r teithiau hyn yn dechrau o harbwr Aberystwyth.

Taith hyfryd yw dilyn Llwybr Beicio Rheidol i lawr i un o gymoedd hyfrytaf Cymru. Mae rhai o luniau’r daith ar y dudalen hon – yr argae, y rhaeadr ger yr ysgol bysgod a hen ffermdy Troedrhiwsebon.

Mae lluniau neu fideos teithiau rhai o aelodau Grŵp e-feic Mynyddoedd y Cambrian ar y dudalen Facebook. Enghraifft dda yw taith un o gyfranwyr selog y dudalen i Gwm Elan o lynnoedd Teifi ac yn ôl.

Adran arall ddefnyddiol ar dudalen y grŵp yw’r ffeiliau gpx o deithiau y medrwch eu lawrlwytho a’u defnyddio i’ch tywys. Mae un o’r rhain yn cychwyn a gorffen yn Ystrad-fflur, gan ddilyn llwybrau diarffordd i gyfeiriad Nant Stalwyn cyn ymuno â hewl Tregaron i Abergwesyn er mwyn dychwelyd heibio Diffwys a Thregaron cyn dilyn yr hen lwybr trên yn ôl i’r Bont ac Ystrad-fflur.

Os am wybod mwy, beth am droi at dudalen Grŵp e-feic Mynyddoedd y Cambrian ar Facebook?