Llyfrau i ysgolion Gogledd Ceredigion i gefnogi iechyd a lles y plant

Canolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau wedi bod yn brysur yn anfon 1,300 o focsys o lyfrau i bob ysgol

Mererid
gan Mererid
Llyfrau Iechyd Da

Mae Canolfan Ddosbarthu’r Cyngor Llyfrau wedi bod yn brysur ym mis Ionawr yn anfon 1,300 o focsys o lyfrau i bob ysgol gynradd yng Nghymru.

Ar Wythnos Iechyd Meddwl Plant, lansiodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru gynllun Iechyd Da i sicrhau fod pob ysgol gynradd yn derbyn pecyn arbennig o lyfrau sy’n cefnogi iechyd a lles plant. Os nad yw eich ysgol wedi ei dderbyn, mae ar y ffordd.

Gan gydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, mae Adran Addysg Llywodraeth Cymru yn ariannu pecyn o 41 o lyfrau i helpu plant i ddeall a thrafod materion iechyd a lles.

Mae pob un o’r llyfrau wedi’u dewis gan banel arbenigol ac yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau stori-a-llun a llyfrau pennod ar gyfer oedrannau rhwng 4 – 11.

Y nod yw cefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ymdrin â phynciau’n ymwneud ag iechyd a lles fel rhan o’r cwricwlwm newydd, ac i gynorthwyo athrawon i drafod y pynciau yma yn ystod cyfnod heriol dros ben.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams:

“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o lansiad prosiect Iechyd Da Cyngor Llyfrau Cymru. Nod prosiect Iechyd Da yw helpu i fynd i’r afael ag effeithiau ymbellhau cymdeithasol hirdymor a hunanynysu, drwy ddarparu llyfrau darllen sy’n ysgogi sgyrsiau ac ymgysylltiad rhieni ar y themâu hyn.

Mae sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu rhannu cariad at ddarllen yn rhan bwysig o’r gwaith rwy’n ei wneud fel Gweinidog Addysg a hoffwn ddiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ei waith caled yn datblygu cyfres ddiddorol o adnoddau i gefnogi athrawon a dysgwyr mewn ymateb i’r pandemig.”

Yn ogystal â’r pecyn o 41 o lyfrau, bydd ysgolion yn derbyn pecyn cynhwysfawr o adnoddau wedi’u paratoi gan rwydwaith o athrawon sy’n arbenigo ym maes llythrennedd, iechyd a lles.

Bydd adnoddau digidol ychwanegol hefyd ar gael ar blatfform addysg y llywodraeth, HWB, yn ystod tymor y Gwanwyn.

Dywedodd Catrin Passmore sy’n Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:

“Mae’r llyfrau yma wedi’u dewis yn ofalus ac yn adnodd ardderchog i helpu disgyblion i ddeall eu hunain, i ddeall eraill ac i ddeall y byd o’u cwmpas. Ymhlith y themâu sy’n cael sylw mae cyfeillgarwch, gwytnwch, hunan-gred, iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac mae’r rhain i gyd yn hynod o berthnasol yn y cyfnod yma.”

Yn ôl Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod pa mor fuddiol gall ddarllen fod o ran ein lles a’n hiechyd meddwl, ac mae’r cynllun yma’n helpu i agor y drws i sgyrsiau gyda phlant am bynciau reit anodd. Mae meithrin sgyrsiau o’r fath a dealltwriaeth bob amser yn bwysig ond yn enwedig felly nawr ac rydym ni’n falch iawn o gael gweithio gydag Adran Addysg Llywodraeth Cymru i wireddu’r prosiect pwysig yma.”

Mae rhestr o’r llyfrau Cymraeg a Saesneg sydd wedi’u cynnwys yn y pecyn Iechyd Da i’w chael ar wefan y Cyngor Llyfrau ac mae’r teitlau i gyd ar gael drwy siopau llyfrau lleol. Mae rhai o’r teitlau hefyd ar gael fel e-lyfrau ar ffolio.cymru

DARLLEN YN WELL

Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn rhan o gynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant sy’n helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen.

Anelir y cynllun at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys 21 o gyfrolau yn Gymraeg a 33 yn Saesneg sy’n trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion.

Gall llyfrau sydd ar y rhestr gael eu hargymell gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.

Datblygwyd y rhaglen Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, ac fe’i cyflwynir yng Nghymru gan elusen The Reading Agency mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, llyfrgelloedd cyhoeddus a Chyngor Llyfrau Cymru.