Llwyddiant i Gwenallt

Cyn-brifathro Ysgol Penweddig yn ennill y gadair

Mererid
gan Mererid

Bardd o Dal-y-bont yw enillydd Cadair Eisteddfod Amgen 2021.

Mae nifer ohonoch yn nabod Gwenallt Llwyd Ifan fel cyn-brifathro Ysgol Penweddig ac Ysgol Henry Richards, Tregaron, a bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hyfforddi athrawon gwyddoniaeth. Mae’n briod gyda Delyth Ifan a ganddo dau o blant.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd gyfrol DNA gan Gyhoeddiadau Barddas. Yn 1999, enillodd y gadair yn Eisteddfod Môn.

Mae’n aelod o dîm ymryson Tal-Y-Bont

Llongyfarchiadau Gwenallt.