Llunio barddoniaeth am ‘luniadau’ Gogledd Ceredigion

Cyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Mary Burdett-Jones am natur a pherthynas Cymru a’r byd

Mererid
gan Mererid

Mae Mary Burdett-Jones o Aberystwyth wedi cyhoeddi ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth. Mae Mary yn wreiddiol o Gaerlŷr, ond yn byw yng Ngheredigion ers 1970, a bu’n aelod o staff golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru.

Yn 1992, collodd Mary ei thad, a hwn oedd y symbyliad iddi ddechrau barddoni.  Dechreuodd ysgrifennu yn Saesneg ond, er mawr syndod iddi, dechreuodd y cerddi ddod yn Gymraeg. Cafodd gefnogaeth gan Caerwyn Williams, a gyhoeddodd nifer o’i cherddi yn Y Traethodydd, ac wrth gael ymateb y cyhoedd tyfodd ei hyder i barhau i farddoni.

Rhoddodd Caerwyn y  teitl “Lluniadau” ar gyfres o gerddi, a chymerwyd hynny fel teitl y gyfrol.  Mae hi’n gweld barddoni fel siapio iaith i greu rhywbeth yn yr un ffordd ag y byddech yn llunio crochenwaith. Ceir hefyd chwarae ar y gair llun, gan fod yr elfen weledol yn gryf yn ei cherddi, fel y gwelir yn y disgrifiadau o dirwedd Swydd Henffordd,  a lleoedd fel Trwyn y Fegin yn nhirwedd lom Gogledd Ceredigion.

Mae’r gyfrol yn gyflwynedig i’w gŵr, Philip Henry Jones, mab Dr John Henry Jones (a oedd yn gyfarwyddwr addysg y sir ac yn fardd) a Marian Henry Jones (yr hanesydd ac awdures). Aeth Philip i’r coleg yn Abertawe, ac ymlaen i Gaergrawnt, a chael cymhwyster proffesiynol fel llyfrgellydd. Cyfarfu Mary a Philip yng Nghaerlŷr, lle’r oedd yn cael gwneud ymchwil ar gyfer ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg y Llyfrgellwyr. Ef a ddysgodd Gymraeg i Mary hyd at lefel ‘O’. Mae Mary yn ddiolchgar i’r Llyfrgell Genedlaethol, lle’r oedd ystafelloedd Geiriadur Prifysgol Cymru am lawer o’r blynyddoedd y bu’n gweithio fel aelod o’r tîm golygyddol, am y cyfle i weithio a chymdeithasu yn Gymraeg.

Gellir prynu copi o Lluniadau o’ch siop lyfrau leol, neu ar Gwales.

Rydym yn dymuno yn dda i Mary ar y barddoni, ac mae ganddi nifer o brosiectau cyfieithu ar y gweill. Mae’n gobeithio cyhoeddi cyfrol o gyfieithiadau o farddoniaeth Almaeneg nesaf.