Lansiad ‘Yn fyw yn y cof’ gan John Roberts

Lansiwyd ail nofel John Roberts yn y Marine ar nos Fercher 15fed Rhagfyr, gydag Owain Schiavone yn holi

gan Gwenllian Jones
John-Roberts-ac-Owain-Schiavone

John Roberts ac Owain Schiavone yn y lansiad yn y Marine, Aberystwyth

Lansiwyd nofel newydd John Roberts, Yn fyw yn y cof, ar nos Fercher 15fed o Ragfyr yng Ngwesty Marine, Aberystwyth. Nofel yw hon am dair cenhedlaeth o un teulu. Ceir hanes Anti Glad oedd yn ffermio Tyddyn Bach, ei nai Iorwerth a newidiodd gyfeiriad ei fywyd ar ôl marwolaeth ei fodryb, ac am Bethan ei ferch. Stori am gefn gwlad a’r ddinas, am ofal a chariad ac am ddal dig a dial.

Yn ystod y lansiad, Owain Schiavone oedd yn gyfrifol am y gwaith gwych yn holi John am ei nofel a’r broses o ysgrifennu ac roedd Angharad a Thom o Siop Inc yn gwerthu copïau. Mae’r lansiad ar gael i’w wylio yn ei gyfanrwydd ar dudalen AM Y Lolfa, ar dudalen YouTube Y Lolfa ac ar dudalen Facebook Y Lolfa.

Magwyd John Roberts ar fferm ger Llangïan, Pen Llŷn. Bu’n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru. Mae’n byw yn Aberystwyth ers blynyddoedd gyda’i ferch, Mari Sion hefyd yn byw yn lleol.

Ef yw hefyd awdur Gabriela (hefyd gan y Lolfa).

Mae Yn fyw yn y cof gan John Roberts ar gael nawr yn eich siop lyfrau leol am £8.99.