junior parkrun Aberystwyth yn ailddechrau

Croesawu plant yn ôl yn dilyn seibiant o 16 mis

Catrin hopkins
gan Catrin hopkins
received_303078004839680
received_210497344331118
received_378491903838187

Braf oedd cael cwrdd unwaith eto yn Rhodfa Padarn am 9 ar fore Sul. Heddiw gwelwyd ugain o blant yn dychwelyd i redeg a cherdded o gwmpas y cwrs ar ol seibiant o 16 mis ers i Covid-19 rhoi taw ar unrhyw weithgareddau ’nôl fis Mawrth y llynedd.

Diolch enfawr i’r Cyngor Sir am adael i ni ailddechrau unwaith eto. Hefyd, diolch i junior parkrun am weithio’n galed ar y canllawiau, asesu risg a moderneiddio’r system cadw amser a sganio i wneud yn siŵr ein bod o fewn rheolau cenedlaethol cadw pellter ac ati.

Diolch enfawr hefyd i’r rheolwr digwyddiadau sy’n rhoi ei amser i wneud yn siŵr bod junior parkrun Aberystwyth yn gallu ailddechrau. Hefyd,  diolch yn fawr i’r gwirfoddolwyr am roi eu hamser ar fore Sul i wneud yn siŵr bod y sesiwn yn digwydd heb unrhyw ffwdan.

Croeso i unrhyw blentyn rhwng 4 a 10 oed (14 fel arfer, pan fydd parkrun yn dychwelyd) ymuno. Gallwch gofrestru ar wefan parkrun i gael eich ‘barcode’ unigol, a chofiwch ddod â hwnnw (wedi’i brintio) gyda chi ar fore Sul.

https://www.parkrun.org.uk/aberystwyth-juniors/