Hysting etholiad Senedd 2021 – gofal henoed yng Ngogledd Ceredigion

Ai hwn fydd hysting cyntaf etholiad Senedd 2021 i drigolion Gogledd Ceredigion?

Tom Kendall
gan Tom Kendall

Cynhelir hysting gyda ymgeiswyr etholiad Senedd 2021 dan ofal Fforwm Gogledd Ceredigion ar gyfer Gofal Pobl Hŷn.

Bydd y noson yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth Ebrill 13eg am 7.00 yr hwyr a hynny trwy Zoom.

Gwahoddwyd pob un o’r chwe ymgeisydd sy’n sefyll yng Ngheredigion.

Elin Jones – Plaid Cymru

Cadan ap Tomos – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Amanda Jenner – Ceidwadwyr

Dylan Lewis – Rowlands – Llafur

Harry Hayfield – Parti Gwyrdd

Gethin James – Diwygio’r DU

20190225_135307
Senedd Cymru

Bydd croeso mawr i unrhyw un fynychu gyda blaenoriaeth ar drafodaeth ar faterion sy’n effeithio ar Ofal Pobl Hŷn yng Gogledd Ceredigion.

I gofrestru’ch diddordeb, e-bostiwch tomkendall50@gmail.com i gael mynediad.