HAHAV yn chwilio am wirfoddolwyr ac am arian

Allwch chi helpu elusen bwysig i Geredigion

Mererid
gan Mererid
HAVAV

Allwch chi helpu drwy roi ychydig o oriau i dreulio gyda rhywun a chyflwr tymor hir, neu helpu yn y siop, neu i gyfrannu yn ariannol?

Mewn cyfarfod Fforwm Gofal Henoed Gogledd Ceredigion nos Iau 25 Tachwedd 2021, derbyniwyd cyflwyniad gan James Dunbar am wasanaethau a’r heriau sydd yn wynebu’r elusen HAHAV.

Pwy yw HAHAV?

Elusen dan arweiniad gwirfoddolwyr yw HAHAV.  Fe’i sefydlwyd yn 2015 i gynnig help ymarferol, gofal cymdeithasol a chwmnïaeth i bobl Ceredigion sydd â salwch cronig sydd yn eu cyfyngu. Daeth hyn o ganlyniad i elusen Beacon of Hope yn mynd yn fethdalwyr yn 2014.

James Dunbar

Maent yn rhoi cefnogaeth hefyd i deuluoedd a gofalwyr yn ogystal â’r cleifion sy’n annwyl iddynt.  Mae ein gwasanaethau’n ategu a chydredeg â gwaith Tîm Gofal Lliniarol Hywel Dda sy’n bartner cryf a pharhaus i ni.

Mae ganddynt siop elusen brysur yn Heol y Wig, Aberystwyth a dyma eu prif ffynhonnell cyllid ynghyd â rhoddion a gweithgareddau codi arian eraill.

Ers sefydlu siop HAHAV yng Ngorffennaf 2015, mae 40 o wirfoddolwyr wedi cyfrannu mwy na 18,000 awr yn didoli, prisio a gwerthu nwyddau a roddwyd.

Plas Antaron yn gartref parhaol

Cyn COVID, cymerodd yr elusen les adeilad Plas Antaron gyda rhaglen i gynnal gweithgareddau. Nid yw wedi bod yn bosibl cynnal rhaglen lawn, ac mae’r elusen bellach yn codi arian i brynu’r adeilad.

Maent bellach yn lansio ymgyrch i brynu Plas Antaron (sydd yn Nhollborth y De ar y ffordd mas o Aberystwyth) fel cartref parhaol.

Warws yn Stad Ddiwydiannol Glanrafon

Oherwydd bod y siop yn cael cymaint o gynigion o ddodrefn, penderfynodd HAVAV i agor warws lle gellir rhoi dodrefn i gael eu hail werthu. Mae’n agos i’r Ganolfan Ailgylchu, felly yn gyfleus iawn i rai sydd yn gwagio’r tŷ. Gellir trefnu casgliad o gysylltu gyda HAVAV.

Mark Williams, aelod o fwrdd HAVAV

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer 2022

  • Mae HAVAV angen rhagor o ddynion i wirfoddoli ar gyfer ein gwasanaeth Cwmnïaeth a Chymorth.
  • Mae’r elusen angen gwirfoddolwyr a fyddai’n hoffi ein helpu gyda’r gweithgareddau newydd ym Mhlas Antaron – mae angen ystod eang o gefnogaeth.
  • Chwilio am unigolion wedi eu hyfforddi mewn cefnogaeth i rai mewn profedigaeth.
  • Unigolion i hyfforddi rhai gwirfoddolwyr i sicrhau bod ein gwefan newydd a’n sianel YouTube yn cynnwys y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf.

Rolau eraill y gallwch gynnig eich help

  • Eisteddwyr: gweithio’n uniongyrchol â chleifion, eu gofalwyr a’u teuluoedd yng nghartref y claf ei hun
  • Therapyddion: cwnselwyr, therapyddion cyflenwol, arweinwyr grŵp byw’n iach
  • Codwyr Arian: yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddusrwydd i’r elusen a’i chefnogi’n ariannol
  • Gwirfoddolwyr y Siop: yn helpu i redeg siop HAHAV yn 14 Heol y Wig Aberystwyth, y warws ym Mharc Diwydiannol Glanrafon a’n siop eBay
  • Cefnogwyr Gweinyddol a TG:  cyflawni sawl rôl wahanol sy’n angenrheidiol i sicrhau gwasanaeth hyfyw – gan gynnwys cynhyrchu newyddion, storïau a fideos ar gyfer ein gwefan
  • ‘Bydis’ Technegol: yn helpu defnyddwyr i fanteisio i’r eithaf ar ein gwasanaethau ar-lein a sicrhau eu bod yn weithredol.
  • Garddio a Chynnal a Chadw:  ein helpu i gadw Plas Antaron a’r siop yn Heol y Wig mewn cyflwr da

Gallwch wneud cais ar-lein i wirfoddoli gyda HAHAV neu e-bostio Amelia am fwy o wybodaeth ar:  coordinator@hahav.org.uk

Bydd pob gwirfoddolwr yn derbyn hyfforddiant, yn dibynnu ar y rôl maent wedi’i dewis. Mae costau teithio ar gael i’r gwirfoddolwyr.

Plîs gwirfoddolwch a chyfrannwch.