Hadau a bwyd i bawb – Bwyd Dros Ben Aber

Dydd Sadwrn Ysblennydd o leihau gwastraff bwyd yn Aberystwyth

Mererid
gan Mererid

CADWCH Y DYDDIAD – Dydd Sadwrn, 22 o Fai 2021

Rhwng 12 a 2 o’r gloch, yn siop Bwyd Dros Ben (prosiect Tyfu Aber) ar 15 Stryd Chaylebeate, bydd y digwyddiad cyntaf y flwyddyn o rannu eginblanhigyn (seedling). Os oes gennych chi blanhigion rydych chi am gyfnewid – beth am fynychu?

Hefyd ar yr un diwrnod, o 10:15, mae’r Pantri Cymunedol yn rhannu pob math o duniau ar hap a nwyddau sych, ynghyd ag unrhyw o’r becws a nwyddau eraill sydd ar ôl ar ddiwedd yr wythnos. Mae ganddynt nwyddau cyfanwerthu – felly dewch â jar / twb i’w llenwi.

O chwarter wedi hanner dydd, bydd bwyd tecawê wedi’i wneud yn ffres i chi ei fwynhau. Bydd angen i chi ddod â’ch cynwysyddion a’ch cyllyll a ffyrc eich hun, gan eu bod am leihau gwastraff pecynnu. Bydd cynhwysion a lluniau o’r paratoadau tecawê ar y diwrnod, felly dewch i ddysgu mwy am yr ymdrech i leihau gwastraff bwyd. Dewch draw i Hyb Rhannu Bwyd ECO a chymryd yr hyn rydych eisiau ei fwyta. Mae croeso i bawb a talwch fel rydych yn teimlo.

Maent hefyd wedi cynnal sesiwn ar Zoom ar sut y gellir creu Llyfrgell Hadau. Y syniad yw y gallwch chi gymryd yr hadau, tyfu rhywfaint o fwyd, ac yna arbed rhai o’r hadau, a dod â nhw yn ôl i mewn i helpu eraill. Dros amser, bydd Tyfu Aber yn helpu’r hadau i addasu i’n hinsawdd leol, gan eu gwneud yn fwy cynhyrchiol a gwydn i’n hinsawdd leol a newidiol. Byddwn yn gwneud mwy o hadau i fwy o bobl dyfu mwy o fwyd!

Collwyd nifer o’r planwyr dros y cyfnod clo

Mae hyn yn dod ar ol cyfnod digalon lle mae’r grwp wedi colli rhai o’r bocsys plannu roedd ganddynt cyn y cyfnod clo. Yn anffodus, mae nifer wedi eu dwyn, ond nid yw hyn wedi effeithio agwedd bositif y grwp. Diolch iddynt am eu gwaith positif.