Gyrru tacsi yn achub mam o Aberystwyth rhag tlodi

“Cefais fy rhoi mewn cysylltiad â thîm Cymunedau am Waith a Mwy. Roedd y tîm yn wych!”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae dynes o Aberystwyth yn dweud bod gyrru tacsis wedi achub hi a’i theulu rhag tlodi

Roedd Tracey, sy’n 34 mlwydd oed, yn gweithio 12 awr yr wythnos mewn siop tecawê bwyd Tsieineaidd.

Nid oedd yn ennill digon o arian ac roedd hi a’i phlant mewn perygl o dlodi.

Cafodd gymorth gan Cymunedau am Waith a Mwy i ffeindio gwaith.

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion, sy’n cefnogi unigolion 16 oed a throsodd sy’n byw mewn tlodi neu mewn perygl o fyw mewn tlodi ledled Ceredigion a ledled Cymru.

“Roedd y tîm yn wych!”

“Mae gen i gontract dim oriau ar yr isafswm cyflog yn y siop tecawê,” meddai Tracey.

“Roeddwn yn ysu am fwy o oriau.

“Gan fy mod yn fam i ddau o blant ifanc sy’n dioddef o ofid gwahanu, roedd dod o hyd i’r swydd gywir wastad yn mynd i fod yn her.

“Roedd yn rhaid i mi gael swydd arall, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau chwilio.

“Gyda chymorth fy hyfforddwr swydd yng nghanolfan waith Aberystwyth, cefais fy rhoi mewn cysylltiad â thîm Cymunedau am Waith a Mwy. Roedd y tîm yn wych!

“Fe wnaethant fy helpu i roi fy CV at ei gilydd, datblygu fy sgiliau presennol a’m cefnogi i gael bathodyn trwydded tacsi.

“Rydw i bellach yn yrrwr tacsi, ac ochr yn ochr â’m swydd arall rydw i’n gallu gweithio 28 awr yr wythnos.

“Rwy’n hoffi bod yn yrrwr tacsi, mae cael swydd sefydlog ac oriau hyblyg y gallaf eu ffitio o amgylch fy nheulu yn rhoi tawelwch meddwl i mi.

“Hoffwn ddiolch i Misha o Gymunedau am Waith a Mwy am y gefnogaeth a’r cymorth y mae hi wedi’u rhoi i mi yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.

“Rwy’n argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â nhw os oes angen help arnoch i ddychwelyd i’r gwaith neu gyrsiau dysgu!”

“Cadarnhaol”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth.: “Mae’n gadarnhaol clywed hanes Tracey ynglŷn â sut mae hi wedi gallu gwella ei bywyd hi a bywyd ei phlant drwy ennill mwy gyda chymorth Cymunedau am Waith a Mwy.

“Rwy’n cytuno â Tracey a byddwn yn annog unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd hyfforddi neu gyfleoedd gwaith i gysylltu â’r tîm.”