Dim gwyliau dramor eleni? Beth am gloddio ym Mhendinas ym mis Awst?

Cyfle i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn cloddfa archeolegol ar Bendinas ym mis Awst

Mererid
gan Mererid

Yn dilyn 4 mlynedd o ymgyrchu, mae grŵp cymunedol Penparcau ac Ymddiriedolaeth Archeolegwyr Dyfed wedi llwyddo i gael cyllid a chaniatâd CADW a’r Cyngor Sir i gloddio Pendinas am olion o’r Oes Haearn.

Mae’r tîm yn apelio am wirfoddolwyr i’w cynorthwyo gyda’r gwaith, a fydd yn digwydd dros gyfnod o dair wythnos ym mis Awst. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â j.smith@dyfedarchaeology.org.uk, neu ymunwch a nhw ar Facebook neu Twitter.  Gallwch hefyd gael manylion pellach ar wefan Grŵp Hanes Penparcau ar Facebook.

Adeiladwyd y gaer yn Oes yr Haearn ar Ben Dinas. Enw’r ardal ar y pryd oedd Dinas Maelor, gyda Phen Dinas y pegwn uchaf yn yr ardal. Cawr Celtaidd oedd Maelor Gawr, ac mae ei hanes a’i dri mab, Cornippyn, Crygyn a Bwba, wedi eu cofnodi yn Olion Cewri Cymru gan Siôn Dafydd Rhys.

Bu cloddio archeolegol yn ystod y 1930au, darganfuwyd olion crochenwaith yn dyddio o tua 100 CC. Credir i’r gaer gyntaf gael ei hadeiladu gan y Celtiaid ar ochr ogleddol y bryn, ac na adeiladwyd ar gopa deheuol y bryn tan ddegawdau’n ddiweddarach.

Er bod nifer o gaerau Oes yr Haearn eraill yn y cyffiniau, mae arddull adeiladu’r gaer yn fwy tebyg i gaerau a welir i’r dwyrain, yn agosach at y ffin bresennol a Lloegr, sy’n awgrymu o bosibl i’r gaer gael ei hadeiladu gan fudwyr o’r dwyrain tua 300 CC. Erbyn dyfodiad y Rhufeiniaid, daeth oes y gaer fel amddiffynfa i ben.

Meddai Dr Alan Chamberlain o Grŵp Hanes a Diwylliant Penparcau:-

Roedden ni i gyd yn sylweddoli bod ganddom ni’r ased anhygoel yma o fewn tafliad carreg i ni ac nad oedden ni mewn gwirionedd yn gwybod fawr ddim amdano. Fe ddechreuon ni wneud gwaith ymchwil i’r safle fel grŵp, a threfnu sgyrsiau a mynd am deithiau o gwmpas y safle, ac roedd y diddordeb yn amlwg achos fe ddaeth o leiaf 100 o bobl i bob digwyddiad.Ein bwriad ni oedd ceisio rhannu’r wybodaeth yma rhwng pobl leol, ac mewn ysgolion hefyd, fel eu bod nhw’n dod i glywed mwy am y trysor yma ar y bryn, a mwy am eu hanes lleol nhw.”

Mae’r gaer ymhlith y mwyaf yng Nghymru, a’u bwriad ydy edrych yn fanylach ar adeiladau sydd i’w cael yno er mwyn gallu dyddio’r safle yn well.

 

Mae’r archeolegwyr eisoes wedi cael caniatâd gan gorff Cadw ar gyfer y gwaith cloddio, ac mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi caniatâd mewn egwyddor i’r criw fynd ar eu tir er mwyn cynnal y gwaith.

 

Meddai Ken Murphy o Archeolegwyr Dyfed: –

Dyma’r gaer haearn fwyaf a gorau yng Nghymru gyfan. Mae’n ased a esgeuluswyd. Er bod arwyddion newydd yno, does dim byd yno i arwain twristiaid neu gerddwyr yn gyffredinol i ymweld â’r safle. Byddai’r gwaith cloddio yma nid yn unig o gymorth i ni o ran casglu gwybodaeth, ond gobeithio y bydd e hefyd yn codi proffil y safle a rhoi cynllun rheoli yn ei le.

Ken a Fran Murphy

Mae’r archeolegwyr yn gobeithio dechrau cloddio ar safle sydd eisoes wedi cael ei archwilio, a hynny yn 30au’r ganrif ddiwethaf. Ymhelaethodd Ken: –

Byddwn ni’n edrych ar beth fyddwn ni’n ei ddarganfod, ac mae’r datblygiadau sydd wedi bod mewn gwyddoniaeth o’i gymharu â’r 30au yn mynd i fod o gymorth enfawr i ni.

Bydd modd i ni, gobeithio, allu gweld ble o fewn y gaer roedd y tai, y cartrefi, y ffiniau ac adeiladau eraill o bwys.

Rhag ofn i chi feddwl fod y gofgolofn yn hanesyddol – cofgolofn o’r 19g yw’r tŵr. Roedd y tŵr sydd ar siâp magnel yn deyrnged i Dug Wellington a Brwydr Waterloo. Gobeithiwyd coroni’r golofn gyda cherflun o Wellington ar gefn ei geffyl, ond aeth y noddwyr i drafferthion ariannol cyn cwblhau’r gwaith.