Gwobr Chwarae Teg i’r Tîm Merched

Tîm Pêl-droed Merched Aberystwyth yn ennill tlws a gwobr o £1,000

gan Gruffudd Huw
130288198_4924935697581133

Llongyfarchiadau i Dîm Pêl-droed Merched Aberystwyth ar ennill Gwobr Chwarae Teg Cymdeithas Adeiladu’r Nationwide. Mewn datganiad i’r wasg, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd y tîm yn derbyn tlws a gwobr ariannol o fil o bunnoedd.

Dyfernir y wobr i’r tîm a dderbyniodd y lleiaf o gardiau melyn a coch yn ystod tymor 2020–2021 yn Uwchgynghrair Merched Cymru, a noddir gan Orchard. Dim ond saith cerdyn melyn a dderbyniodd y tîm a’r swyddogion yn ystod y tymor – a dim un cerdyn coch.