Gwneud y pethau bychain: helpu’r GIG hefo Raffl 

gan Gareth Whalley

Gareth Whalley
gan Gareth Whalley

Helo! Fy enw i yw Gareth Whalley a fy swydd yw hyfforddwr awyr agored i’r Llynges Frenhinol yn Aberhonddu. Efo Dydd Gŵyl Ddewi jyst rownd y cornel mae’r llenni yn cael eu tynnu ar raffl wnes i greu i’r GIG sydd wedi bod yn rhedeg ers mis rŵan.

Mi wnes i greu’r raffl yma efo’r syniad o roi rwbeth nôl i’r GIG am ein cadw ni i gyd yn saff dros gyfnod anodd iawn i bawb. Efo’r gwobrau yn cynnwys noson i ddau mewn gwesty â Spa 4*, rownd o golff i bedwar ar gwrs pencampwriaeth golff a llawer mwy.

Dwi hefyd yn gobeithio rhoi rwbeth bach i’r enillwyr lwcus i edrych mlaen tuag ato ar ôl gaeaf anodd iawn. Hyd yn hyn dw i wedi codi dros £1,000 a dw i ddim yn stopio fanna: mis nesa dw i efo Skydive ar y cardiau efo’r gobaith o godi mwy o arian i staff anhygoel y GIG.