Gweithio gyda’n gilydd Aber

Cynhaliwyd noson i drafod syniadau positif sut i wella tref Aberystwyth

Mererid
gan Mererid

Nos Fercher, 21ain o Ebrill, cynhaliwyd noson gyntaf Gweithio gyda’n Gilydd Aberystwyth sydd yn gyfle i rannu syniadau positif am Aberystwyth a chreu cynlluniau. Syniad Kerry Ferguson oedd y noson, gan iddi gael ei phenodi fel cynghorydd tref yn ddiweddar ac yn ymwybodol o bwysigrwydd cydweithio.

Prif nod y noson oedd helpu i hwyluso sefydliadau ac unigolion i gydweithio – gan osgoi prosiectau sydd yn bodoli yn barod, a helpu i rannu gwybodaeth a syniadau. Roedd yn galonogol gweld nifer fawr o gymaint o sefydliadau, grwpiau ac unigolion, yn ogystal â chynghorwyr o’r Cyngor Tref a Sir.

Cytunwyd ar 6 phrif thema. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar unrhyw un o’r themâu hyn cysylltwch ag arweinydd y thema.

Digwyddiadau

Pwysleisiwyd fod angen cydlynu gwell ynglŷn a rhannu digwyddiadau presennol mewn calendr, ond yn gweithio’n well i hyrwyddo’r ystod enfawr sydd gennym eisoes, o bosibl yn edrych ar greu (neu weithio gyda sefydliad eisoes) rhestr “beth sydd ymlaen” am y flwyddyn. Emlyn Jones yn hapus i fod yn brif bwynt cyswllt i ddechrau: emlyncell@hotmail.com

Sbwriel / Tacluso’r Dref

Penderfynwyd mai grŵp Facebook Caru Aber fyddai yn y sefyllfa orau i helpu gydag unrhyw ymdrechion i’r cyfeiriad hwn. Gofynnwyd i’r cynghorwyr helpu i ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â chaniatâd, pwy sy’n berchen ar beth ac ati, gobeithio y ceir cronfa ehangach o wybodaeth. Os mai casglu sbwriel, tacluso’r dref a balchder cyffredinol Aberystwyth yw eich peth chi, beth am ymuno â’r grŵp ar Facebook!

Plaid Cymru Penparcau

Dinas Llenyddiaeth UNESCO 2024

Prosiect hir dymor, ond gyda chymaint o siopau llyfrau, awduron, gweisg, Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol a llyfrgelloedd – Aberystwyth yw’r lle delfrydol ar gyfer bod yn ddinas llenyddiaeth. Fe fydd hefyd yn gartref i ddigwyddiadau megis Gŵyl Crime Cymru 2022.

Bydd bod yn ddinas UNESCO yn annog twristiaeth, a hefyd yn rhoi proffil uchel i’r dref, yn arbennig ymysg rhai sydd yn caru darllen.

Mererid Boswell sydd yn arwain, felly anfonwch e-bost ati ar merbala@hotmail.com os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan.

Ffryntiau Siopau

Bu lawer o drafodaethau ynglŷn â gwella golwg y dref trwy ddefnyddio blaenau siopau gwag. Mae digon o syniadau, gan gynnwys arddangosfeydd artistiaid, ond y rhwystr cyntaf yw dod o hyd i’r landlordiaid. Cynigiodd Ceredig ei arbenigedd fel perchennog busnes ar y brif stryd fawr am y 30 mlynedd diwethaf, a Jeff Jones o Caru Aber fydd y prif gyswllt ar y thema yma. Os gallwch chi helpu, ei e-bost yw Jeff_aber@hotmail.com.

Aberteifi

Croesawyd Clive Davies (cynghorydd o Aberteifi) i’r cyfarfod gan eu bod wedi cyflwyno llawer o ddatblygiad diddorol i’w tref. Roedd Gary Pemberthy o Cactws eisoes wedi trefnu taith i Aberteifi i weld y gwelliannau gan weld beth ellid ei ddefnyddio yma yn Aberystwyth. Os oes gan unrhyw un diddordeb mewn ymuno ar y daith, cysylltwch â Gary (gary@watchobsession.co.uk) sydd hefyd yn cynnig cefnogi unrhyw berchnogion busnesau bach a allai gynnig cefnogaeth neu wybodaeth.

Iaith Gymraeg

Nododd Steff o Cered fod angen helpu i hyrwyddo’r Gymraeg, a bod angen cydblethu’r thema hon ym mhopeth y gwneir yn y dref.  I fod yn rhan o’r grwp yma, cysylltwch â Steff am hyn, ei e-bost yw: cered@ceredigion.gov.uk

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y 9fed o Fehefin 2021 ar Zoom. Gallwch ymuno a’r digwyddiad drwy’r linc yma.