Ganed Waldo – bardd, heddychwr, sosialydd a chenedlaetholwr o argyhoeddiad – yn Hwlffordd, Sir Benfro yn 1904; bu farw ar 20 Mai 1971, hanner canrif yn ôl. I nodi’r achlysur, mae Cymdeithas Waldo yn annog pobl i roi llinell o waith y bardd ar label a’i hongian fel deilen ar goeden ar 20 Mai. Dail Pren – yr unig gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd Waldo – yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r syniad hwn.
Mae Côr Gobaith yn gôr stryd ac yn gôr ymgyrchu sy’n canu dros heddwch (ac amryw o faterion eraill), felly bydd aelodau’r côr yn hongian ’dail’ gyda llinellau sy’n cyfleu yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Un o’r rhain fydd “Daw’r wennol yn ôl i’w nyth”, rhan o gerdd o’r un teitl a ysgrifennodd Waldo mewn ymateb i’r fyddin yn meddiannu darn o dir amaeth yn Sir Benfro i greu ardal hyfforddi i’r fyddin (Ardal Hyfforddi Castellmartin). Gall y llinell gynrychioli cymunedau megis Epynt hefyd, yn ogystal â phobl ar draws y byd a orfodwyd i adael eu cymunedau.
Mae’r llinell “Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain” yn dod o’r gerdd Plentyn y Ddaear a ysgrifennwyd yn 1939 mewn ymateb i’r cyhoeddiad am bolisi tir llosg, strategaeth filwrol gyda’r nod o ddifetha unrhyw asedau fyddai o fudd i’r gelyn; ond mae’n llinell sydd ag arwyddocâd oesol a bydd yn sicr ar un o ‘ddail’ y côr.
Bydd Côr Gobaith yn hongian eu ’dail’ ar goeden heddwch Aberystwyth (ger Llyfrgell y Dre) y noson cyn yr hanner canmlwyddiant (sef noson ymarfer y côr). Gwahoddir unrhyw un arall sy’n dymuno cofio Waldo i wneud yr un peth – naill ai’r noson honno neu rywbryd yn ystod y diwrnod wedyn.
Nod Cymdeithas Waldo yw cael pawb sy’n edmygu Waldo – fel bardd neu fel heddychwr – i gymryd rhan yn y dathliad hwn er mwyn sicrhau bod pob math o ‘ddail’ barddonol yn cyhwfan yn y gwynt ar goed ar draws Cymru.