Geiriau i’n Cynnal: Tymor y Pasg #oedfa

Geiriau i’n Cynnal: Tymor y Pasg

William Howells
gan William Howells

MYFYRDOD AR GYFER DYDD SUL, 18 EBRILL 2021

[Diolch i’r Parchg Judith Morris am y myfyrdod isod]

Annwyl gyfeillion,

Gweddi agoriadol: O Dduw ein Tad, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, trown atat o’r newydd gan gydnabod mai Tydi yw awdur bywyd. Diolchwn i Ti am dymor y Pasg ac am neges orfoleddus y bedd gwag. Pâr inni dy weld o’r newydd yn dy wedd atgyfodedig a phrofi o rym a nerth dy bresenoldeb. Yn enw ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Darlleniad: Luc 24: 13–35

Myfyrdod: Er bod pythefnos bellach wedi mynd heibio ers dathlu Gŵyl yr Atgyfodiad, yng nghalendr yr Eglwys y mae Tymor y Pasg yn parhau am rai wythnosau eto tan y Sulgwyn. Priodol felly yw dwyn i gof rai o hanesion hyfrytaf y Testament Newydd am yr Iesu yn ymddangos i’w ddisgyblion yn ei wedd atgyfodedig.

Un o’r hanesion hynny yw’r daith i Emaus a gofnodir yn Efengyl Luc. Fe ddywedir mai hon yw stori fer brydfertha’r byd. Mae’n berffaith fel darn o lenyddiaeth, ‘a story of singular charm and grace’, yn ôl un esboniad Beiblaidd. Yn sicr, mae’n stori hyfryd, gyda’r ddau deithiwr a oedd mor ddigalon ac isel eu hysbryd yn cael eu trawsnewid wrth gyfarfod â’r Crist atgyfodedig.

Pentref bach tua 7 milltir a hanner o ddinas Jerwsalem oedd Emaus, yn ddigon agos i’r brifddinas i fod yn rhan o bopeth a oedd yn digwydd yno ond eto’n ddigon pell i osgoi unrhyw gyfrifoldeb petai pethau’n troi’n beryglus. Roedd Cleopas a’i gydymaith ar eu ffordd yno o Jerwsalem ac yn teimlo’n gwbl ddigalon yn dilyn croeshoelio’r Iesu. Yn ystod y daith ymunodd ‘dieithryn’ â hwy a holi pam yr oeddent yn teimlo mor drist. Rhannwyd yr hyn a ddigwyddodd yn Jerwsalem, ynghyd â’r siom o golli cyfaill ac arweinydd arbennig. Ond wrth i’r daith i Emaus barhau, dyma’r ‘dieithryn’ yn dechrau egluro arwyddocâd y croeshoeliad gan gyfeirio at yr Ysgrythurau. Wedi cyrraedd Emaus, estynnwyd gwahoddiad iddo i aros gyda hwy gan ei bod yn nosi. Wrth eistedd o gwmpas y bwrdd yn ystod swper sylweddolodd Cleopas a’i gydymaith ‘ar doriad y bara’ mai Iesu oedd y ‘dieithryn’. Diflannodd yntau yn sydyn o’u golwg ac aeth y ddau ar garlam yn ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y disgyblion eu bod wedi gweld Iesu’n fyw.

Mae’r darn hwn yn un o dri sy’n cofnodi sut yr oedd rhai o ddilynwyr agosaf Iesu wedi methu â’i adnabod yn ei wedd atgyfodedig. Pan ddaeth Mair Magdalen wyneb yn wyneb â’r Crist atgyfodedig yn yr ardd ar fore’r Pasg roedd hi’n argyhoeddiedig mai’r garddwr ydoedd. Nid oedd y disgyblion ar lan Môr Tiberias wedi sylweddoli mai Iesu oedd y ‘dieithryn’ ar y traeth ac yma eto yn yr hanes hwn mae Cleopas a’i gyfaill yn cael trafferth i adnabod Iesu. Eto, yn y pen draw, maent i gyd yn llwyddo nid yn unig i’w weld ond i’w adnabod hefyd fel y Crist byw.

Mae hanes y daith i Emaus yn un hynod gyfoethog ac yn gyforiog o wirioneddau oesol. Dyma dri ohonynt.

Yn gyntaf, mae Cleopas a’i gydymaith yn ein hatgoffa mai taith yw bywyd, neu bererindod yng nghwmni Duw. Hyd yn oed os gwnawn fyw yn yr un lle yn ddaearyddol ar hyd ein hoes, ni allwn sefyll yn yr unfan yn ysbrydol. Mae Duw yn ein gwahodd i fod yn gyd-deithwyr gydag Ef ar y ddaear hon ac i dyfu yn ein hymwybyddiaeth ohono wrth inni ddirnad ei ewyllys. Golyga hyn fod yn rhaid i ni ddyfnhau ein perthynas ag Ef a dod i’w adnabod yn well. Yn union fel y byddwn yn dod i adnabod person arall yn well, gallwn ddod i adnabod Duw yn well. Nid perthynas statig yw’r berthynas hon ond un sydd yn cael ei grymuso o fod mewn cymdeithas gyda’n cyd-Gristnogion.

Yn ail, mae’r Arglwydd Iesu gyda ni bob cam o’r daith. Fel y dengys yr hanes hwn, er na allai Cleopas a’i gydymaith ei weld yn eu tristwch a’u hiraeth, yr oedd Iesu’n agos iawn atynt. Yr un yw’r gwirionedd heddiw. Mae’r Iesu gyda ni ar holl lwybrau amrywiol bywyd: mae’n bresennol yn ein tristwch, ein galar a’n poen, yn ogystal ag yn ein cyfnodau o lawenydd. Ni fyddwn byth ar ein pennau ein hunain beth bynnag fo’r amgylchiadau sydd yn ein hwynebu. Yn ddi-os fe fydd Ef gyda ni ar y daith ac ni fydd byth yn ein gadael yn amddifad o’i gwmni dwyfol. O dreulio cyfnodau rheolaidd mewn myfyrdod a gweddi gallwn ddod yn fwyfwy ymwybodol o’i bresenoldeb.

Yn olaf, mae’r hanes yn ein hannog i beidio byth â throi cefn ar Iesu. Er na wyddom beth oedd y rheswm penodol dros fynd i Emaus mae yna ryw awgrym yn yr hanes fod Cleopas a’i gydymaith wedi profi cymaint o siom nes iddynt benderfynu cefnu ar Jerwsalem. Nid oedd pethau wedi datblygu fel yr oeddent wedi gobeithio. Roedd y freuddwyd fawr ar ben a gwell efallai oedd anghofio’r cyfan am weinidogaeth y gŵr o Galilea. Mae’n breuddwydion ninnau hefyd yn aml yn cael eu chwalu, a ninnau’n fynych yn profi siom. O ganlyniad, cawn ein temtio i roi’r gorau i’n ffydd am nad yw bywyd yn ein trin yn deg ac yn garedig. Ond mae hanes y daith i Emaus yn ein herio i beidio â rhoi’r gorau i’n hymlyniad wrth yr Arglwydd Iesu ond i ddal ati yn ffyddlon ac yn gadarn yn ei gwmni ac i weithredu yng ngrym gwirioneddau yr Efengyl.

Gweddïwn: Diolchwn i Ti, O Dduw ein Tad, am dymor y Pasg ac am neges yr Atgyfodiad. Diolchwn i Ti am yr hanesion hyfryd sy’n cofnodi ymddangosiadau’r Crist atgyfodedig. Cynorthwya ninnau heddiw hefyd i weld y Crist byw o’r newydd yn ein plith.

Tydi, fu’n rhodio ffordd Emaus
’rôl torri grym y bedd,
enynna mewn calonnau oer
y fflam o ddwyfol hedd.

Tydi fu’n cerdded gyda’r ddau
i’w cartref wedi’r brad,
cerdd gyda ni bob awr o’n hoes
hyd drothwy tŷ ein Tad.

Tydi, fu’n agor cloriau’r gair
a dangos meddwl Duw,
llefara wrthym ninnau nawr
dy wirioneddau byw.

Tydi fu’n torri’r bara gynt
tyrd eto atom ni
a dwg ni oll o gylch y bwrdd
i’th lwyr adnabod di.  (J. Edward Williams)

 

Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda chwi oll. Amen.