Geiriau i’n Cynnal: ‘Goleuni’

Geiriau i’n Cynnal: ‘Goleuni’

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

[Diolch yn fawr i’r Parchg Judith Morris am y myfyrdod isod]

Myfyrdod ar gyfer Dydd Sul, 24 Ionawr 2021

Annwyl gyfeillion,

Cyfeiriodd Peter yn ei fyfyrdod yr wythnos ddiwethaf at dymor y gaeaf a chawsom ein hatgoffa ganddo fod Duw yn ein hannog i edrych y tu hwnt i galedi a chyni’r tymor at y goleuni sydd yn cynnig cysur. Priodol felly yw cofio ynghanol tywyllwch mis Ionawr mai Duw y goleuni yw ein Duw ni.

Gweddi Agoriadol: O Dduw ein Tad, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, deisyfwn yn awr dy bresenoldeb wrth i ni droi atat mewn gweddi a defosiwn. Gwna dy hun yn hysbys inni a chynorthwya ni i’th addoli mewn ysbryd a gwirionedd.

Deuwn ger dy fron gan gydnabod mai Duw Sanctaidd a Hollalluog wyt ti a’th fod hefyd yn Dduw sydd yn adnabod pob yr un ohonom. Gwyddost am yr hyn sydd yn peri poen a gofid i ni, yn ogystal â’r pethau hynny sydd yn peri llawenydd a gorfoledd. Tyrd atom yn awr a dyro inni brofi o’th ras a’th drugaredd. Cynorthwya ni i ymlonyddu ac i ymdawelu ynot, gan dderbyn o’th fendith a’th arweiniad.

Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni,
tro di ein nos yn ddydd;
pâr inni weld holl lwybrau’r daith yn gloywi
dan lewyrch gras a ffydd.  (W. Rhys Nicholas, 1914–96)

Yn enw ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Darlleniadau: Mathew 5: 14–16; Ioan 8:12; 1 Ioan 1: 5–10

Hyfrydwch oedd gwylio seremoni urddo Joe Biden yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ddydd Mercher diwethaf. Gwefr hefyd oedd gweld urddo Kamala Harris yn Is-Arlywydd, y wraig gyntaf a’r person cyntaf o dras Asiaidd i ddal y swydd.

Fel rhan o’r seremoni cyflwynodd Amanda Gorman, Bardd Ieuenctid Llawryfol Cenedlaethol yr Unol Daleithiau (National Youth Poet Laureate) ei cherdd, ‘The Hill We Climb’, a luniwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.  Dyma ran olaf y gerdd:

We will rebuild, reconcile and recover in every known nook of our nation,
in every corner called our country our people diverse and beautiful
will emerge battered and beautiful.
When day comes, we step out of the shade aflame and unafraid.
The new dawn blooms as we free it. For there is always light.
If only we’re brave enough to see it. If only we’re brave enough to be it.

Yn ddi-os mae’r gerdd yn un bwerus ac yn fynegiant clir o ddyheadau miliynau o Americaniaid ar gyfer eu gwlad, a hynny’n arbennig yng nghyd-destun y trais a welwyd yn Washington bythefnos yn ôl pan geisiodd rhai o gefnogwyr Donald Trump feddiannu adeiladau’r Gyngres. Mae diweddglo cerdd Amanda Gorman yn ein cyfeirio at y goleuni anniffoddadwy ac yn ein herio nid yn unig i weld y goleuni, ond i fod yn oleuni yn ein byd. Fel Cristnogion, onid dyma yw yr union her inni heddiw? Adnabod y goleuni, dangos y goleuni a charu’r goleuni.

Pan fyddwn ynghanol cyfnodau anodd a thywyll fe all y goleuni ddod o’r mannau mwyaf annisgwyl. Ac yntau yn un o garcharorion Auschwitz gorfodwyd y seiciatrydd Iddewig galluog Victor Frankl i orymdeithio yn blygeiniol ym mherfeddion y gaeaf, gyda’r gwarchodwyr creulon yn gweiddi arno ac yn ei daro â’u drylliau. Wrth i Frankl gerdded gyda’i gyd-garcharorion, meddai cydymaith wrtho: ‘Meddyliwch pe bai ein gwragedd yn medru’n gweld ni yn awr!’ Ni ddywedodd neb yr un gair ond yn amlwg yr oedd pob un yn dwyn i gof ei wraig ei hun. Yn ei feddwl, fe welodd Frankl ei wraig, Tilly, yn gwenu arno’n gynnes ac yn ei annog ymlaen yn gadarnhaol. Roedd gwedd ei hwyneb yn fwy disglair na chodiad haul a bu’r profiad i Frankl yn un dwys iawn. Am y tro cyntaf yn ei fywyd, sylweddolodd mai cyfrinach iachawdwriaeth yr hil ddynol oedd cariad.

Wedi iddo gael ei ryddhau o Auschwitz, aeth Frankl ati i ysgrifennu’r clasur ‘Man’s Search for Meaning’ a oedd yn crynhoi ei argyhoeddiad nad dioddefaint a drygioni oedd â’r gair olaf. Wrth droi at yr Efengylau, cawn weld buddugoliaeth y gobaith hwnnw ym marwolaeth ac atgyfodiad ein Harglwydd Iesu.

Goleuni’r byd yw Crist,
Tywysog ein hachubiaeth,
y seren fore yw
a gwawr ein gwaredigaeth.
Ein gobaith ydyw ef,
perffeithydd mawr ein ffydd,
diddarfod gariad yw
sy’n troi pob nos yn ddydd.
(G. W. Briggs, 1875–1959, efel. Dyfnallt Morgan, 1917–94)

Gweddïwn: Diolchwn i Ti O Dduw am dy oleuni, y goleuni nad oes modd ei ddiffodd, y goleuni sydd yn ein harwain a’n cynnal, a’r goleuni sydd yn ein hannog i fyw mewn ysbryd o gariad. Dyma’r goleuni all ddod atom o’r cyfeiriadau mwyaf annisgwyl. Gwna ni’n effro ac yn agored i dy gyffyrddiadau dwyfol di. Gofynnwn hyn yn enw ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda chwi oll. Amen.

1 sylw

Peter M. Thomas
Peter M. Thomas

Diolch Judith am neges gyfoes a gobeithiol

Mae’r sylwadau wedi cau.