Galw am gofeb i “Frenhines Llenyddiaeth Ramant” a dirgelwch ei bedd di-enw

Mae Liz Jones yn galw am blac enw ar dŷ Marguerite yn Queen’s Square, Aberystwyth i’w chofio

Mererid
gan Mererid

Mae tiwtor Prifysgol Aberystwyth, Liz Jones yn galw am gofeb yng Ngogledd Ceredigion i gofio Marguerite Jervis, awdur toreithiog a fu yn byw ym Mhenrhyn-coch a’r Gors (New Cross).

Ysgrifennodd Liz gofiant iddi, a gyhoeddir gan Wasg Honno ym mis Mai.

Pwy oedd Marguerite a beth oedd y cysylltiad gyda Gogledd Ceredigion?

Roedd gan Marguerite fywyd rhyfeddol fel nofelydd rhamant, newyddiadurwr, actores a pherchennog theatr. Ganwyd hi yn Burma, a’i haddysgwyd yn Lloegr, ac fe anogodd ei gwr cyntaf hi i ysgrifennu.

Symudodd Marguerite i Aberystwyth ym 1933 gyda’i hail ŵr a ‘bachgen drwg’ chwedlonol llenyddiaeth Gymraeg, Caradoc Evans.

Sefydlodd gwmni theatr Rogues and Vagabonds, gyda’i nod o ddod â drama Saesneg, wedi’i pherfformio gan actorion proffesiynol, i ganol cefn gwlad Cymru. Meddai Liz: –

Wedi’i leoli yn Theatr y Chwarel (lle mae’r hen dafarn y Boar’s Head bellach yn sefyll), cynhaliwyd sioeau gan ddramodwyr mawr fel Noel Coward, JB Priestly, Ivor Novello, ac Emlyn Williams,

Teithiodd y theatr o amgylch gorllewin Cymru, gan ymweld ag Aberdyfi, Machynlleth, Talybont, Borth, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron, Cei Newydd, Aberporth a Llandrindod.

Yn ddiweddarach, symudodd Marguerite a Caradoc i’r Gors (New Cross) gyda mab Marguerite, Nicholas Sandys / Barcynski, lle treulion nhw flynyddoedd y rhyfel, gan ddychwelyd i Aberystwyth cyn marwolaeth Caradoc ym 1945. Symudodd Marguerite i Benrhyn-coch, lle bu’n byw tan ddiwedd y 1950au, a bu farw yn Ysbyty Amwythig ym 1964.

Dywed y newyddiadurwr Lyn Ebenezer (sydd o Bontrhydfendigaid): –

‘Bydd hwn yn un o Lyfrau’r Flwyddyn. O’r diwedd, rhyddhawyd menyw anhygoel o hualau ei gŵr dadleuol… Bywgraffiad hynod ddarllenadwy, a ymchwiliwyd yn ofalus.’

Roedd Marguerite yn awdur toreithiog a gyhoeddodd dros 140 o lyfrau gyda 11 nofel wedi’u haddasu ar gyfer ffilm, gan gynnwys The Pleasure Garden (1925), ymddangosiad cyntaf cyfarwyddwr Alfred Hitchcock. Mae ei hunangofiant, a gyhoeddwyd ym 1941, yn rhestru 38 o nofelau a ysgrifennodd fel Oliver Sandys, gan gynnwys chwe ffilm, a 21 ysgrifennodd fel yr Iarlles Barcynska. Cyhoeddodd straeon byrion, cofiannau (un ar gyfriniaeth ac iachâd ffydd), a bywgraffiad o’i hail ŵr, Caradoc Evans.

Pwy yw Liz Jones yr awdur?

Mae Liz Jones yn awdur ffeithiol creadigol ac yn diwtor dysgu gydol oes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn addasiad llwyfan i sgrin (Theatr, Ffilm a Theledu) – canlyniad ei diddordeb mawr mewn hanesion cudd theatr a sinema. Mae wedi darlithio mewn sawl cynhadledd.

Yn 2017, roedd ar restr fer gwobr ysgrifennu New Welsh Review ac yn ail yng ngwobr traethawd Rhyngwladol Hektoen 2019. Mae hi’n ysgrifennu ar gyfer cyfnodolion llenyddol a chylchgronau menywod.

Mae’n byw yn Aberystwyth gyda’i gŵr lle mae’n mwynhau nofio ym Môr Iwerydd (haf neu gaeaf).

Dyma ei llyfr cyntaf ar bwnc y mae’n hynod o wybyddus ynglŷn ag ef.

Gellir prynu’r llyfr o’ch siop lyfrau leol neu ar Gwales.

Beth yw dirgelwch ei charreg fedd?

Claddwyd Marguerite gyda’i gwr, Caradog yn y Gors (Capel Horeb) ond dim ond ei enw ef sydd ar y garreg. Bydd rhaid i chi ddarllen y llyfr i ddod i wybod pam….