Mewn sgwrs BroAber360, dywedodd Gregory Vearey-Roberts, arweinydd Côr Ger y Lli, mai dyma’r penderfyniad cywir o ystyried yr amgylchiadau anodd sydd ohoni.
Er hynny, ei bryder pennaf, meddai, yw sicrhau bod yr Eisteddfod yn derbyn y gefnogaeth ariannol mae’n ei haeddu, er mwyn sicrhau ei chynhaliaeth ar gyfer y dyfodol.
“Eithaf anodd cael repertoire at ei gilydd”
“Rwy’n cytuno’n llwyr gyda’r penderfyniad,” meddai.
“Mae hi wedi bod yn benderfyniad mor hynod o anodd i’r pwyllgor felly rwy’n cydymdeimlo’n llwyr.”
Er hynny, dywedodd bod y cyhoeddiad wedi dod ac ychydig o ryddhad, o ystyried pa mor heriol fyddai cychwyn cynnal ymarferion o dan y cyfyngiadau presennol.
“Sa’i wedi gallu ymarfer a ni wedi trial gwneud e dros Zoom ond dydi o ddim ‘r’un peth,” meddai, “mae rhai aelodau’n shieldio, yn bryderus ac ati.
“Byddai wedi bod yn eithaf anodd cael repertoire at ei gilydd.”
“.. Ond galla i ddim ond dychmygu faint o gorau fydd yn cystadlu yn 2022!”
“Bwysig ein bod ni’n camu i helpu”
“Mae’r pwyllgor, y gymuned a Cheredigion yn haeddu Eisteddfod i’w chofio a dyma’r ffordd gorau i wneud hynny,” meddai wedyn.
Er hynny, dywed fod goblygiadau gohirio’r ŵyl ac effaith hynny ar yr Eisteddfod fel mudiad yn dod â thristwch mawr iddo a bod cyfrifoldeb arnom i’w cefnogi.
“Rwyf wedi bod mor ffodus drwy gydol fy mywyd,” meddai.
“Yr Eisteddfod yw popeth i mi ac mae pobol rwy’n nabod a ffrindiau da yn cael eu heffeithio – mae’n drist iawn.
“Mae o wedi bod yn rhan annatod o’n bywyd ni felly mae o’n bwysig ein bod ni’n camu i helpu…
“Mae’n hanfodol i ni gefnogi a chynnig help llaw.”