Cynhaliwyd ffotomarathon flynyddol Aberystwyth yn ddiweddar ac unwaith eto, fel digwyddiad rhithiol. Ond wnaeth hynny ddim rhwystro dros 60 o gystadleuwyr rhag cystadlu ac ymateb i’r her o dynnu chwe llun ar chwe thema mewn chwe awr.
Mae pawb sy’n cystadlu yn mwynhau’r her ac yn awyddus i ennill un o’r pedwar categori neu cael eu dewis fel enillydd y thema orau, ond eleni mae bonws ychwanegol gan fod yr holl ddelweddau a gyflwynwyd yn cael eu harddangos yng ngofod gwych Oriel Gregynog, yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd pedwar categori – cynradd, uwchradd, agored ac, eleni, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, un ar gyfer myfyrwyr presennol y coleg ger y lli. Roedd gwobrau hefyd am y llun gorau ym mhob thema. Y beirniad eleni oedd y ffotograffydd adnabyddus, Marian Delyth, ac roedd ganddi dipyn o her ar ei dwylo,
“Roeddem i gyd yn gobeithio cyfarfod wyneb yn wyneb eleni ond yn anffodus nid oedd hynny’n bosib. Fodd bynnag, mae ffotograffiaeth yn gyfrwng celf gweledol poblogaidd sy’n hyblyg a hygyrch ac mae hynny eto wedi’i brofi gyda’r delweddau difyr yma.
“Mae’n wych eu gweld yn cael llwyfan teilwng yma yn ein Llyfrgell Genedlaethol – os cewch chi’r cyfle i fynd mae’n wir werth yr ymdrech.”
Y chwe thema a osodwyd gan y trefnwyr oedd Agos, Gwyrdd, Ble Ydw I, Un Byd, Dau a Gwag.
Enillwyd y categori oed cynradd gan Isa Bosch o ysgol Comins Coch gyda Gwennan MacDonald yn cael cymeradwyaeth uchel. Enillwyd y categori oed uwchradd am yr ail flwyddyn yn olynol gan Gwion Crampin o Ysgol Gyfun Penweddig gydag Elenor Nicholas, hithau yn gyn enillydd ac Eira MacDonald yn cael cymeradwyaeth uchel.
Enillwyd y categori agored gan y ffotograffydd Angharad Bache o Aberystwyth, gyda Lowri Gwynne ac Alex Ioannou yn cael eu canmol yn fawr. Enillwyd y categori newydd ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gan Angus Smith.
Roedd enillydd y categori agored, Angharad Bache, wrth ei bodd gyda’r newyddion,
“Mae’r ffotomarathon yn dipyn o her ac yn ddisgyblaeth anodd i’w meistroli. Roedd yn hyfryd bod allan yn Aberystwyth yn chwilio am ddelweddau posib fyddai’n gweddu i’r themâu. Yr hyn sydd hyd yn oed yn well gyda’r arddangosfa ffisegol eleni yw y gallwch weld sut yr aeth eraill ati i ddehongli’r themau ac i ffotograffydd mae hynny’n hyfryd ei weld.
“O ystyried safon y delweddau sydd i’w gweld rwyf yn hynod o falch – edrych ymlaen nawr at y flwyddyn nesaf a’r cyfle i amddiffyn fy nghoron!”
Enillwyr y themau unigol oedd:
Agos: Hefin Jones, Gwyrdd: Courtney Evans, Ble ydw i ac Un Byd: Angharad Bache, Dau: Manon Elin a Gwag: Gwennan MacDonald.
Roedd Marian Delyth yn awyddus hefyd i ganmol lluniau themau y canlynol: Lowri Gwynne, Sean Fitzpatrick, Alex Smith, Alex Ioannou, Gaenor Mai Jones, Harriet McDevitt Smith, Colin Price, Lynne Blanchfield, Wyn Griffith, Martin Leett a Reina Van der Wiel.
Cynhelir y ffotomarathon drwy gefnogaeth Cyngor Tref Aberystwyth ac mae’r Maer, y Cynghorydd Alun Williams yn annog pawb i fynd i weld yr arddangosfa,
“Mae’n wych bod y ffotomarathon wedi bwrw ymlaen eleni er ei fod ar ffurf ychydig yn wahanol. Ond mae gweld y delweddau’n cael eu harddangos yn un o’n prif orielau cenedlaethol yn brofiad mor wych ac rwy’n amau ei fod yn dipyn o wefr i’r holl gystadleuwyr.
“Lluniau gwych mewn lleoliad hyfryd – a’r cyfan ar garreg ein drws!”
Yn ôl Catrin M S Davies, un o’r trefnwyr, mae’n hyfryd gweld arddangosfa go iawn unwaith eto,
“Hoffwn ddiolch i’r Llyfrgell Genedlaethol am eu parodrwydd i weithio gyda ni eleni a darparu lleoliad mor odidog ar gyfer yr arddangosfa. Yr hyn sy’n wych am allu cynnal arddangosfa o’r holl ddelweddau yw y gallwch gymharu sut mae pob cystadleuydd wedi dehongli’r themâu.
“Roedd yn hyfryd gweld llawer o’n cystadleuwyr arferol yn cymryd rhan eto eleni yn ogystal ag enwau newydd a wnaeth eu marc. Croesi bysedd nawr y byddwn yn cynnal ffotomarathon wyneb yn wyneb unwaith eto y flwyddyn nesaf ac yn gallu gweld pawb.”
Mae’r arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol tan ddydd Mercher, 10fed Tachwedd.