Ffotomarathon Aberystwyth – barod amdani?

Y Llyfrgell Genedlaethol i arddangos yr holl luniau eleni

gan Deian Creunant
O BellElenor Nicholas

O Bell

DrychKate Woodward

Drych

TriGwion Crampin

Tri

Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae pobl Aberystwyth yn paratoi eu camerâu a’u ffonau ar gyfer y ffotomarathon blynyddol. Yn draddodiadol caiff ei chynnal ar ddydd Sadwrn cyntaf hanner tymor yr Hydref, pan fod angen i gystadleuwyr dynnu chwe llun mewn chwe awr ar chwe thema wahanol.

Y nod eleni yw cynnal y ffotomarathon yn ei ffurf arferol, ond unwaith eto bydd yn rhithiol yn sgil y cyfraddau Covid-19 a’r ofnau am gynnydd mewn achosion yn yr Hydref. Felly bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn ffordd debyg i’r llynedd gyda chystadleuwyr angen cyflwyno eu lluniau’n ddigidol er mwyn cael eu beirniadu ar-lein.

Fel cymaint o ddigwyddiadau eraill bu’n rhaid i’r trefnwyr ystyried diogelwch cyhoeddus fel yr eglura Catrin Davies,

“Ar ôl trefnu digwyddiad rhithwir llwyddiannus y llynedd, roeddem yn gobeithio bod yn ôl i’r drefn arferol eleni. Ond gyda chyfraddau’r firws yn dal i godi, roeddem yn teimlo mai’r ffordd gyfrifol o weithredu oedd gwneud yn rhithiol eto. Er gwaethaf y cyfyngiadau, serch hynny, mae ffotograffiaeth yn parhau i fod mor hygyrch – ac yn cynnig cyfle i bobl werthfawrogi eu hamgylchedd lleol.

“Y gobaith eto yw y bydd yn darparu gweithgaredd i’r teulu cyfan, gan herio’r meddwl a’r dychymyg – ac yn y pen draw yn dipyn o hwyl.”

Mewn partneriaeth gyffrous bydd yr holl gynigion eleni yn cael eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac mae Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a’r Llyfrgellydd Cenedlaethol yn edrych ymlaen at weld yr arddangosfa,

“Rydyn ni wedi gweithio gyda FfotoAber ar wahanol adegau yn y gorffennol ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld y bartneriaeth hon yn dwyn ffrwyth. Mae’n cyd-fynd yn wych â’n harddangosfeydd ffotograffig cyfredol gan Nick Treharne a Jon Poutney ac edrychaf ymlaen at groesawu llawer o gystadleuwyr y Ffotomarathon yn ogystal â’u ffrindiau a’u teuluoedd i’r Llyfrgell i weld yr arddangosfa.”

Bydd pedwar categori cystadlu – oedran cynradd, oedran uwchradd ac agored ac eleni, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth bydd categori penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio yn y dref. Cynigir gwobrau am y setiau gorau ym mhob categori a’r llun gorau ar gyfer pob thema.

Caiff y digwyddiad ei gynnal gyda chefnogaeth Cyngor Tref Aberystwyth ac mae’r Maer, y Cynghorydd Alun Williams, yn falch o weld y ffotomarathon yn parhau,

“Rydyn ni o hyd yn byw mewn cyfnod hynod heriol ac mae’n hanfodol bod y gweithgareddau roedden ni’n arfer eu gweld yn y dref yn mynd yn eu blaenau, er mewn ffordd wahanol.

“Diolch i dîm FfotoAber am fentro gyda’r digwyddiad rhithwir hwn a hoffwn annog unrhyw un, yn unigolion a theuluoedd, i gymryd rhan yn yr achlysur unigryw hwn.

“Rwy’n falch y gallwn ni fel Cyngor ei gefnogi a dymunwn pob llwyddiant i bawb sy’n cymryd rhan.”

Caiff y digwyddiad ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 23 Hydref. Bydd y niferoedd yn gyfyngedig a bydd angen i gystadleuwyr gofrestru i gymryd rhan trwy anfon e-bost at ffotomarathon@gmail.com cyn 10pm nos Iau (21 Hydref) a dilyn tudalennau facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber am fwy o wybodaeth.

Lluniau – rhai o fuddugwyr llynedd