Ffilm fer wedi’i dewis i fod yn rhan o Ŵyl ffilmiau mawreddog 

… ac fe all gael ei ddewis ar gyfer gwobrau’r Oscars!

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae ffilm fer wedi’i chreu gan Amy Daniel, gwneuthurwr ffilmiau a Darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi’i dewis i fod yn rhan o ŵyl ffilmiau mawreddog yng Ngogledd America fis nesaf.

Mae’r ffilm ‘The Legend of Bryngolau’ wedi’i dewis i fod yn rhan o Ŵyl Ffilmiau Ann Arbor sef y dathliad hynaf o gelfyddyd delweddau byw avant-garde ac arbrofol yng Ngogledd America.

Mae hefyd yn golygu gall y ffilm gael ei dewis ar gyfer gwobrau’r Oscars.

Bydd ei henw’n cael ei ychwanegu i’r rhestr o wneuthurwyr ffilmiau nodedig eraill sydd eisioes wedi dangos eu gwaith yn yr Ŵyl, gan gynnwys Kenneth Anger, Brian De Palma, Agnes Varda ac Andy Warhol.

“Ysbrydoli ein myfyrwyr i barhau i greu eu ffilmiau”

Yn ddarlithydd, awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd-gyfarwyddwr, mae Amy Daniel hefyd yn ffilmio ei deunydd ei hun.

“Mae’n deimlad gwych bod Legend wedi’i dewis i fod yn rhan o ŵyl mor fawr ag edrychaf ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiad ar-lein,” meddai.

“Cafodd y ffilm ei chreu drwy ddefnyddio cymysgedd o bobl broffesiynol a myfyrwyr sy’n rhan o’r cwrs gradd BA Cynhyrchu Ffilmiau.

“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ein myfyrwyr i barhau i greu eu ffilmiau byrion eu hunain yn y dyfodol.”

Mae rhai o’i ffilmiau byrion eraill wedi’u dangos mewn Gwyliau ledled Prydain, ble gall ffilmiau gael eu dewis ar gyfer gwobrau BAFTA, yn ogystal â mewn ffilmiau rhyngwladol yn Ffrainc, Tsieina, Awstralia ac America.

Mae ei gwaith wedi’i ddarlledu ar y BBC, Sky, ITV ac ar sianeli rhyngwladol, megis ARTE yn Ffrainc a’r Almaen a Globo ym Mrasil.