Ymgynghoriad ar barc solar Fferm Penglais

Ymgynghoriad ar barc solar Fferm Penglais yn cau ar y 22ain o Ebrill 2021

Mererid
gan Mererid

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi comisiynu Asbri Planning Ltd i gynnal ymgynghoriad cyn caniatâd cynllunio ar barc solar Fferm Penglais. Gallwch gyfrannu eich sylwadau drwy ddilyn y linc yma cyn y 22ain o Ebrill 2021.

Mae’r cynlluniau, adroddiadau a dogfennau ategol ar gael i’w harchwilio a’u hadolygu ar-lein. Gallwch hefyd ofyn am gopi o’r wybodaeth drwy anfon e-bost at mail@asbriplanning.co.uk neu drwy ffonio 02920 732652.

Dylai unrhyw un sydd yn dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig wneud erbyn 22ain Ebrill 2021. Anogir pawb i e-bostio eich sylwadau at mail@asbriplanning.co.uk, neu ei gyrru at Asbri Planning Ltd, Uned 9 Oak Tree Court, Mulberry Drive, Cardiff Gate Business Park, Caerdydd, CF23 8RS.

Cyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth diwedd Mawrth eu bwriad i fuddsoddi £2.5 miliwn yn adeiladu fferm solar i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Pan fyddant yn weithredol, bydd y paneli solar ffotofoltäig yn cynhyrchu tua 25% o ofynion trydan blynyddol Campws Penglais – sy’n cyfateb i’r ynni a ddefnyddir gan dros 500 o gartrefi. Bydd yn cynhyrchu arbedion carbon o 550 tunnell y flwyddyn.

Bydd y cyfleuster pedwar hectar, a fydd wedi’i leoli ar dir sydd eisoes yn eiddo’r Brifysgol, yn costio ychydig llai na £2.5m ac yn cynhyrchu arbedion blynyddol o dros £300k y flwyddyn.

Dros oes y paneli, disgwylir i’r Brifysgol arbed £18m mewn costau trydan.

Esboniodd yr Athro Neil Glasser, dirprwy is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth â chyfrifoldeb am yr amgylchedd a chynaliadwyedd:

“Mae Polisi Cynaliadwyedd y Brifysgol yn dangos ein hymrwymiad i gyflawni ein gweithgareddau mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol a chynaliadwy.

Dim ond un rhan o’n hymdrechion i harneisio pŵer solar yw’r cynnig i leihau ein defnydd o ynni, gwella ein heffeithlonrwydd, a chefnogi ein haddewid i sicrhau niwtraliaeth garbon erbyn 2030.

Mae’r prosiect pŵer solar yn benllanw ymchwiliad manwl i gyfleoedd ynni adnewyddadwy posibl, gan gynnwys astudiaeth ddichonoldeb blaenorol i gynhyrchu ynni gwynt o dyrbinau gwynt.

Y prosiect hwn yw’r mwyaf uchelgeisiol o’r nifer o brosiectau datgarboneiddio y mae’r brifysgol yn gweithio arnynt, ac mae’n gwneud synnwyr amgylcheddol a busnes.

Yn amodol ar roi caniatâd cynllunio, rydym yn gobeithio symud ymlaen gyda gosod y paneli solar o’r hydref eleni.”

Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth dechnegol a masnachol gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, gyda chanllawiau’n cael eu darparu ar ddewis safle, asesiad sgrinio, modelu ariannol a chymorth parhaus yn cael ei ddarparu i dîm y prosiect.