O’r fath lanast gan Gwilym Jenkins

Peth peryglus iawn yw ymyrryd â byd natur, trwy warchod rhai anifeiliaid ar draul eraill. 

gan Elliw Dafydd

Ehedydd

Pryd cyfleus i’r mochyn daear

Screenshot-2021-01-19-at-15.43.2

Gylfinir

Screenshot-2021-01-19-at-15.48.0

Grugiar

Gofid mawr i mi yw gweld y dirywiad aruthrol sydd yn digwydd i adar yr ucheldir ers troad y ganrif. Ble maen nhw wedi mynd? Gaf i gynnig yn garedig un rheswm, ac rwy’n siarad yn awr am Gwm Cletwr fyny i Foel-Llyn. Yn 1973, gwnaed deddf i atal unrhyw un rhag lladd neu niweidio’r mochyn daear. Y mae llawer o’n cyfeillion, o’r trefydd ran amlaf, a chymdeithasau lu, yn gwarchod y mochyn daear i’r eithaf, a beth sydd wedi digwydd? Maent wedi cynyddu yn annerbyniol o uchel, ac wedi mynd yn bla. Mae’n rhaid i bob un gael bwyd. Cyn y ddeddf, nid oedd yr un mochyn daear ar yr ucheldir. Anifail llawr gwlad ydoedd. Os mentrai i fyny, ni fyddai croeso iddo. Roedd yr hen fugeiliaid yn gwybod yn iawn y byddai mochyn daear yn bwyta nhw i gyd, ac yn meddwl mwy am yr adar, ond heddiw mae’r ucheldir yn llawn o foch daear, ar lethrau Pumlumon, Plas y Mynydd, Moel Llyn, Ogof Morris a phob man arall.

Dyma’r cyfnod ’rwyf wedi gweld yr adar yn diflannu.

Nid wyf wedi gweld Grugiar ers 1999, pan welais ddwy yn codi o’r grug wrth Lyn Moel-llyn. Yr oedd yn bleser pur gweld haid o grugieir yn codi ar y mynydd wrth hela defaid. Maent wedi darfod yn llwyr erbyn hyn.

Nid wyf chwaith wedi gweld y Gylfinir (Chwibanogl) yn ystod y ganrif hon. Yr oedd llawer iawn yn nythu ar ffridd Gwarcwm Uchaf cyn y ddeddf, a rhaid bod yn ofalus rhag damsgan yr wyau. Unwaith, roedd un yn nythu yn y cae gwair, a gadawyd percyn ar ôl heb ei dorri, er mwyn iddi gael llonydd i ori. I rywun sydd wedi clywed y Gylfinir yn chwibanu yn y gwanwyn, mae’n gweld ei cholli.

Ymwelydd arall i’r ucheldir oedd yr hwyaden wyllt a hoffai wneud ei nyth yn ymyl nant fach ymhell o bob man. Unwaith yn y flwyddyn 2000, wrth gerdded ar hyd glan yr afon o dan dŷ Caer Arglwyddes ar ôl defaid, cododd hwyaden wyllt o’m blaen. Roedd hi wedi aros ar y nyth nes i mi bron â’i damsgan, ond codi gwnaeth, a chefais i fwy o fraw na hi. Roedd y nyth yn llawn o hwyaid bach diwrnod oed. Ar amrantiad, neidiodd y cwbl efo’i gilydd i’r afon a oedd lathen yn is na’r nyth. Roeddwn yn disgwyl eu gweld yn mynd gyda’r lli, ond na, ’roeddent wedi gwthio i’r geulan ac yn cuddio yn y brwyn yn hollol dawel a dim smic, a methais eu gweld o gwbl. Golygfa anghredadwy oni bai fy mod wedi ei gweld. Drannoeth, gwelais hwy, heb iddynt fy ngweld i, efo’u mam, hanner can llath nes lawr yr afon yn mwynhau eu hunain, pedair ar ddeg ohonynt. Nid yw’r hwyaid i’w gweld yno yn awr.

Y gofid mwyaf yw beth sy’n digwydd i’r ehedydd sydd wedi rhoi cymaint o lawenydd a chwmni i fugeiliaid unig tra wrth eu gwaith ar hyd y canrifoedd? Ychydig iawn, iawn sydd i’w gweld heddiw, dim ond ambell un. Ymhen deg mlynedd byddan nhw i gyd wedi mynd. Cyn y ddeddf roedd llawer iawn i’w gweld a’u clywed. Os collwn yr ehedydd, bydd yn bechod anfaddeuol. Yr oedd gweld yr Ehedydd yn amddiffyn ei theulu yn bleser pur, wrth iddi rowlio o’ch blaen fel petai hi wedi torri adain neu goes er mwyn i chi fynd ar ei hôl i geisio’i dal. Yna, ar ôl i chwi fynd yn ddigon pell o’r nyth, byddai’n codi i’r entrychion yn holliach – greddf natur ar ei orau.

Sylwch mai adar sy’n nythu ar y llawr yw’r rhain i gyd, ac yn hawdd i fochyn daear eu chwilio a bwyta’r wyau.

Tra bod adar sydd yn nythu’n uchel o’r llawr yn ffynnu. A yw hi’n iawn i ni roi’r adar yma o dan y fath anfantais? Does dim rhyfedd eu bod yn darfod o’r wlad, does dim gobaith ganddynt. Mae’n weithred greulon a throseddol, byddai lladron wyau yn cael carchar. Roedd yr Hollalluog yn gofalu amdanynt yn o dda, greda i, cyn y ddeddf, nes i ddynion gymryd Ei le a meddwl y gallent wneud yn well. O’r fath lanast. Cydweithio gyda Natur ddylem, nid brwydro yn ei erbyn. Does dim angen coleg i ddeall hynny, dim ond synnwyr cyffredin ac ysgol brofiad.

Faint o foch daear sydd ddigon yn ein gwlad, degau, cannoedd neu filoedd? Fi fyddai’r olaf i ddymuno cael gwared ohonynt i gyd. Mae’n rhaid cael cydbwysedd mewn byd natur. Mae lle i bob peth a phob peth yn ei le, ond yn sicr mae yna ormod o lawer ohonynt yn awr. Faint o bobl sy’n gweld mochyn daear? Dim ond gweld y llanast mae e’n gadael ar ei ôl y maent. Y mae gweld a chlywed yr adar yn rhoi llawenydd a phwrpas i fywyd. Onid yw hi’n hen bryd i ni warchod y gwan a chlirio’r mochyn daear o’r ucheldir unwaith eto a gadael ychydig ar lawr gwlad ymhob sir yng Nghymru? Rwy’n siŵr byddai hynny’n ddigon. Mae hi’n unfed awr ar ddeg ar yr adar.