Eisteddfod Rithiol

Ysgol Gymunedol Llanilar

Ysgol Gymunedol Llanilar
gan Ysgol Gymunedol Llanilar
168CF0B5-B817-4724-A21B

Ar Ddydd Iau y 25ain o Fawrth, cynhaliodd Ysgol Gynradd Llanilar Eisteddfod Rithiol ac aeth pob dosbarth ati i wneud tasgau ac ennill pwyntiau i’w llys.

Yr enillwyr oedd Ystwyth, yn ail oedd Aeron ac yn drydydd oedd Rheidol.

Enillwyd y gadair gan Bob Wilis, sef Bryn Williams, ac enillodd Bryn 100 pwynt i’w lys. Ond doedd 100 pwynt ddim yn ddigon i guro Ystwyth!

Ar ddiwedd y cystadlu rhithiol cafodd pawb amser chwarae hir am eu holl ymdrechion.

Diwrnod gwych!

 

Gan Bryn Williams a Cennydd Davies