Anturiaethau’r Affrig
Dechreuodd y flwyddyn yn go wahanol. Wedi cwblhau rhan fwyaf o fy arholiadau meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, fe ges i’r cyfle i fynd i weithio mewn ysbyty Byddin yr Iachawdwriaeth yn Chikankata, tref wledig yn Zambia.
Uchafbwynt y trip oedd cael trafaelu i glinigau pentrefi o amgylch tref Chikankata. Gan fod yr ysbyty yn darparu gwasanaeth i ardal mor eang, dim ond bob dau fis roedd y trigolion yn cael cyfle i dderbyn gofal iechyd. O ganlyniad, roedd pob clinig yn orlawn, gyda phobl yn aros trwy’r dydd i weld y meddyg.
Claf sydd dal i sefyll allan yn y cof oedd merch 21 oed. Cafodd hi ddiagnosis o epilepsi, sydd hyd yn oed heddiw yn anodd iawn i fyw gyda yn ardaloedd gwledig yr Affrig o ganlyniad i’r stigma sydd wedi’i gysylltu â’r cyflwr. Nid yw’n anghyffredin i bobl gredu bod y rhai ag epilepsi yn cael ei rheoli gan y diafol, ac felly maent yn cael eu gwrthod gan y gymuned.
Nôl yn yr ysbyty, fe wnes i dreulio sawl diwrnod ar y ward plant a ward y menywod. Roedd problemau’r cleifion yma yn amrywio o malaria, TB, HIV, diffyg maeth ac achosion erchyll o gam-drin domestig. Roedd un ferch ifanc yno wedi cael ei chnoi gan neidr. Roedd y clwyf yn mynd yn waeth ac roedd haint ofnadwy arni gan fod ei mam yn mynnu rhoi meddyginiaeth ‘herbal’ iddi. Roedd yna achosion o bobl yn marw o sepsis o achos iddynt dderbyn help oddi wrth ‘Witch Doctor’ ac felly, roeddent yn oedi cyn mynd i’r ysbyty nes ei bod hi’n rhy hwyr.
Yn ogystal â gweithio, wrth gwrs, roedd yn rhaid joio! Wedi pedwar diwrnod o gerdded yn Tanzania fe wnes i lwyddo i gyrraedd copa Kilimanjaro, 5895 metr uwch lefel y môr – profiad bythgofiadwy! Fe fues i hefyd ar saffari a gweld pob math o anifeiliaid, gan gynnwys “The Big Five”: eliffant, llew, byfflo dŵr, llewpart a rhinoseros. Yn ystod y noson gynta’ yn cysgu mewn pabell yn y Serengeti, fe ges i fy neffro gan sŵn llew yn rhuo. Saff dweud, roedd hi’n anodd mynd yn ôl i gysgu wedi hynny wrth i mi fecso am fy mywyd!
Ar benwythnos ola’ fy nhaith i Affrica, fe wnes i ymweld â Rhaeadr Fictoria. Erbyn hyn roedd sefyllfa’r coronafeirws yn gwaethygu ar raddfa gyflym iawn dros y byd ac roedd nifer o dwristiaid y rhaeadr wedi troi hi am adre yn barod. O ganlyniad, fe gawsom fwynhau’r rhaeadr yn ei holl ogoniant gan osgoi’r torfeydd. Ond hefyd, gwelsom ochr wahanol i’r firws – yr effaith ar fywoliaeth y bobl leol. Roedd nifer ohonynt yn dibynnu ar dwristiaid er mwyn gallu bwydo eu teuluoedd ac yn byw o ddydd i ddydd ar yr ychydig arian roeddent yn ennill.
Adre nôl
Roedd cyrraedd adre nôl i Gymru fach gwahanol iawn, yn dipyn o sioc. Roedd y cyfnod clo cynta’ eisoes wedi dechrau ac fe fues i yn ynysu gyda fy nghariad, Dyfrig, a’i deulu ar eu fferm yn Llangwyryfon. Fe gariodd bywyd ar y fferm yn ei flaen fel yr arfer ac ro’n i’n falch i fod yn gallu helpu allan gyda diwedd y cyfnod ŵyna. Fe wnes i ddod i wybod yn gyflym bod darlithoedd y brifysgol a fy arholiad ola’ wedi’u canslo – ro’n i’n mynd i raddio, ond heb seremoni wrth gwrs!
Wedi i mi gwblhau fy lleoliad ola’ fel myfyrwraig feddygol yn ysbyty Glangwili ym mis Mai, fe ges i gynnig i ddechrau fy swydd yng nghynt nag oedd y bwriad, er mwyn sicrhau bod yna ddigon o staff ar gael i ddelio â’r pandemig. Efallai bod hyn wedi mynd o flaen gofid ar y pryd, gan ein bod wedi bod yn ffodus i beidio â chael unrhyw achosion o covid-19 yn yr ysbyty dros yr haf. Ond, roedd yn brofiad gwerthfawr i’m paratoi ar gyfer beth oedd i ddod.
Ar yr un adeg, fe fues i a Dyfrig yn ffodus iawn i gael symud mewn i dŷ fferm Tanygraig ger Aberystwyth. Er mai merch fy milltir sgwâr ydw i, dwi’n lwcus fy mod wedi cael fy nghroesawu i ardal sydd bron cystal â Sir Benfro (er dwi dal i weld eisiau clywed “wêdd hi’n wêr yn y cwêd dwê”)! Roedd ceisio adnewyddu ein cartref newydd wrth dechrau swydd newydd yn flinedig; ond, ar yr un pryd, ro’n i’n ddiolchgar bod digon gyda fi i’w wneud gan fod pob dim wedi’u canslo!
Dwi’n berson sy’n mwynhau cadw’n fisi, ac roedd cael penwythnosau a nosweithiau rhydd yn gyfle gwych i ddechrau ar fenter newydd- cadw moch! Fe fues i’n ffodus iawn i ennill pump mochyn trwy gystadleuaeth Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Menter Moch. Roedd hyn yn brofiad wnes i joio’n fawr iawn, ac roedd blasu’r cynnyrch ar y diwedd yn bleser!
Ar ddiwedd mis Medi, dechreuodd cleifion covid-19 gyrraedd ein wardiau yn ysbyty Glangwili. Rhaid cyfadde’, ro’n i’n nerfus i ddechrau – nerfus i wynebu am y tro cynta’ y peth yma ro’n i wedi clywed cymaint o bethau erchyll amdano. Mae hi’n drist iawn i weld cleifion yn brwydro i anadlu ac yn drist iawn i feddwl am eu teuluoedd sydd methu bod wrth eu hochr trwy gyfnod mor anodd.
Blwyddyn newydd
Ar hyn o bryd, nid yw 2021 yn teimlo ddim gwahanol i 2020, gyda’r pandemig nawr ar ei waetha’ ers y cychwyn. Ond, gan fy mod yn ysgrifennu i chi ar y diwrnod hwn – y diwrnod ces i fy mrechlyn yn erbyn covid-19, o leia mae na rhyw fath o olau ar ddiwedd y twnnel hir tywyll hwn…