Bu’r pandemig yn gyfnod cythryblus ac anodd i bawb, gyda grwpiau fyddai’n arfer cyfarfod yn rheolaidd yn gorfod troi at gyfarfodydd ar-lein a ffyrdd gwahanol o weithredu. Mae hyn yn sicr wedi bod yn wir am Gôr Gobaith ac, er y llwyddwyd addasu i ganu ac ymarfer ar-lein, gyda rhai sesiynau yn yr awyr agored pan fo’r tywydd yn caniatáu, roedd yna dal teimlad o golled – colli cysylltiad, colli agosatrwydd, colli cymdeithasu, colli cyfleoedd i ganu a rhannu ein neges, a cholli’r cyfle i ddathlu ein pen-blwydd yn 15 oed yn iawn.
Fel ffordd o leddfu’r teimladau hyn, awgrymodd un o aelodau’r côr, ein bod yn cydweithio ar brosiect crefftau gyda’n gilydd fyddai’n gofnod o’r deunaw mis rhyfedd hwn ac yn ddathliad hefyd o bymtheg mlynedd cynta’r côr – o ble y daethom, y digwyddiadau yr ydym wedi bod yn rhan ohonynt a’r pethau yr ydym wedi eu cyflawni. Cytunwyd ar y syniad o greu rhyw fath o gwilt, clytwaith o sgwariau gwahanol, pob un wedi’i greu gan aelod o’r côr yn cynrychioli beth mae’r côr yn ei olygu iddyn nhw.
Ar ôl penderfynu ar faint pob sgwâr rhoddwyd rhwydd hynt i bawb ddefnyddio unrhyw gyfrwng y dymunent i lenwi’r sgwâr. Mae’r darn gorffenedig yn cynnwys brodwaith cywrain, applique, gwau a phaentio, ar bob math o ddefnydd ac mewn amrediad o liwiau. Fel yr unigolion sy’n rhan o’r côr, mae pob un yn wahanol ac yn cyfleu gwahanol agweddau o’r côr – mae rhai yn cynnwys geiriau cân neu’n cyfeirio at ymgyrch neu ddigwyddiad penodol, tra bod eraill yn tynnu sylw at y materion sydd fwyaf pwysig i’r aelod hwnnw. Ac yn y canol, mae enwau aelodau cyfredol y côr wedi’u pwytho ar un sgwâr arbennig er mwyn sicrhau fod pob un wedi’i gynrychioli mewn rhyw ffordd yn y darn gorffenedig.
Er bod pob un yn gweithio ar ei sgwâr ar ben ei hunan, cynhaliwyd rhai sesiynau Zoom i rannu syniadau a gweld sut oedd pawb yn dod ymlaen. Cafwyd sesiynau eraill yn pinio, tacio a gwnïo’r sgwariau terfynol at ei gilydd a rhoi rhuban piws yn forder ar y cyfan.
Mae gwe pry’ cop yn dechrau gydag un edefyn ond yn gorffen fel strwythur prydferth. Man cychwyn y cwilt hwn oedd edefyn o syniad, ond mae’r canlyniad yn gwilt prydferth, lliwgar wedi’i greu o dri deg o sgwariau unigryw. Mae’n cynrychioli Côr Gobaith i’r dim – grŵp o unigolion sy’n dod ynghyd i greu côr sy’n canu dros y pethau sy’n bwysig iddynt – yr amgylchedd, heddwch, hawliau dynol a chymdeithas deg a chyfartal. Dyma’r edafedd sy’n ein clymu ynghyd.