“Dyma un o’r diwydiannau sydd wedi eu heffeithio fwyaf ynghyd a’r diwydiant creadigol”

Galwadau cynyddol i flaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer y sector lletygarwch

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Tafarn Y Llew Du ar Heol y Bont

Mae galwadau cynyddol ymhlith gwleidyddion a pherchnogion busnes i roi blaenoriaeth i oroesiad y sector lletygarwch.

Ddoe (Chwefror 18), mae llefarydd Trysorlys Plaid Cymru, Ben Lake AS, wedi annog y Canghellor, Rishi Sunak, i ymestyn y cynllun ffyrlo a chadw’r gyfradd Terth Ar Werth is ar gyfer y sector hyd at fis Mawrth 2022.

Hefyd, mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, Amanda Jenner, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yr Economi Cymru, Ken Skates, i leisio pryderon.

“Bydd cannoedd o swyddi mewn tafarndai, bariau, gwestai a bwytai ledled Ceredigion mewn perygl pan ddaw sawl rhaglen gymorth i ben y Gwanwyn hwn,” meddai Ben Lake AS, Llefarydd Trysorlys Plaid Cymru.

“Mae’r effaith economaidd yn debygol o gael ei theimlo am flynyddoedd i ddod, gyda busnesau’n wynebu dyled a threthi cynyddol.

“Felly, rwy’n annog y Canghellor i osod rhaglen ad-dalu gynaliadwy ar gyfer busnesau lletygarwch, er mwyn caniatáu taliadau cyfnewidiol dros gyfnod o amser, yn hytrach na chyfandaliadau.

“Mae’r pandemig wedi bod yn hunllef i’r mwyafrif o fusnesau – ond mae’r diwedd o fewn golwg.

“Ni allwn fforddio aberthu llwyddiannau’r misoedd diwethaf trwy ddod â chymorth ariannol hanfodol ar gyfer busnesau bach ledled Ceredigion i ben yn gynamserol.”

“Mae hi ddigon anodd fel mae hi“

“Dyma un o’r diwydiannau sydd wedi eu heffeithio fwyaf, ynghyd a’r diwydiant creadigol,” meddai Sara Beechey, perchennog Yr Hen Lew Du, Aberystwyth.

Rhybuddiodd y byddai unrhyw newidiadau cynamserol i’r cynllun ffyrflo yn golygu y byddai rhaid iddynt “edrych eto ar y busnes.”

Er bod y perchennog busnes yn croesawu’r gostyngiad ar gost Treth ar Werth, dywedodd bod talu y gyfradd is o 5% yn anodd ar hyn o bryd.

“Os ydyn nhw’n gallu cadw lan y gefnogaeth ariannol i ni wedi cael, dwi o’r farn dylai nhw ein cadw ni ar gau er mwyn dod dros y darn diwethaf yma a gwneud yn siŵr bod ni’n gallu agor yn ddiogel.

“Mae’r agor a chau yn gostus a dyna be rydyn ni’n gweld sydd fwyaf stressful i fod yn onest – yr agor a’r cau a newid rheolau – ac yn aml ar fyr rybudd.

“O ran mental health pobol o fewn y diwydiant – doedd hynny ddim yn grêt.

“Mae hi ddigon anodd fel mae hi.”

Mae modd darllen mwy fan hyn.