Diwrnod y Llyfr | Darlleniad o un o straeon Na, Nel!

Diwrnod y Llyfr: yr awdures Meleri Wyn James yn rhannu pennod o Na, Nel! Un tro… 

gan Gwenllian Jones

Dyma’r awdures Meleri Wyn James a’i nith Martha yn darllen un o benodau Na, Nel! Un Tro … llyfr a gyhoeddwyd yn arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr yn 2018. Na, Nel! Un Tro … oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gynnwys yn yr ymgyrch sy’n cael ei gynnal yn flynyddol ar ddydd Iau cyntaf mis Mawrth.

Meddai Meleri Wyn James,

“Roedd yn fraint gweld Na, Nel! fel y llyfr Cymraeg cyntaf a fuodd yn rhan o’r ymgyrch bwysig yma. Roeddwn yn dwlu ar ddarllen ac ysgrifennu pan oeddwn yn blentyn, ac rwy’n dwlu darllen straeon gyda fy mhlant nawr. Rwy’n gobeithio y bydd Diwrnod y Llyfr yn ysbrydoli ac yn dal dychymyg mwy o blant i ddarllen. Eleni, a hithau’n gyfnod clo ar ôl blwyddyn anodd, roeddwn i a fy nith Martha am ddod ag un o straeon Na, Nel! yn fyw! Diolch i Martha am fod yn Nel mor dda!”

Mae cyfres Na, Nel! yn dilyn anturiaethau Nel, y ferch ddireidus, ac yn cyflwyno hwyl a direidi, ac yn annog plant i fynd ati i ddarllen. Erbyn hyn mae 8 llyfr darllen yn y gyfres ynghyd â dyddiadur a llyfr gweithgareddau.

Bydd llyfr darllen newydd yn y gyfres yn cael ei gyhoeddi’n fuan iawn.