O fewn 10 niwrnod i lansio’r Prosiect Gliniaduron ar gyfer Dysgu Gartref ddiwedd Ionawr, mae aelodau o Glwb Rotari Aberystwyth wedi dosbarthu dros 20 gliniadur i Ysgol Penglais ac Ysgol Penweddig i gefnogi dysgu cartref disgyblion yn ystod cyfnod cloi coronafeirws.
Dywedodd Howard Jones, Llywydd y Clwb
“Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r ymateb cadarnhaol a hael gan unigolion yn yr ardal leol. Gwerthfawrogwyd cydweithrediad Awdurdod Addysg Leol Ceredigion a phenaethiaid a staff y ddwy ysgol uwchradd yn fawr. Mae’n fenter gwerth chweil. Mae’r gliniaduron wedi’u haddasu ar gyfer anghenion yr ysgol, gydag aelodau’r Clwb yn cyfrannu i dalu’r costau. “
Ychwanegodd John Bradshaw sydd wedi arwain y fenter
“Mae’r gymuned wedi ymateb yn wych ac mewn cyfnod mor fyr. Yn sicr mae wedi profi i fod yn brosiect tu hwnt o werthfawr.
Mae cefnogaeth Andy Richards o gwmni CCW Solution Ltd wedi bod yn allweddol wrth addasu’r gliniaduron a gyfrannwyd. Mae’r gyriannau caled yn cael eu tynnu allan fel bod data’n cael ei ddiogelu a’i ddychwelyd i’r rhoddwyr.
Cyfrannwch
Fodd bynnag, mae’r angen yn dal i fodoli a byddem yn croesawu rhagor o liniaduron os yw pobl yn fodlon eu cyfrannu. Mae croeso hefyd i garedigion gyfrannu rhoddion ariannol. Mae amser yn brin!
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Wefan Clwb Rotari Aberystwyth: www.aberystwythrotary.uk ”
Dywedodd Dr Rhodri Thomas, Prifathro Ysgol Penweddig:
Mae’r cyfnod clo yn anodd i bawb ac mae addysg pob plentyn yn parhau yn flaenoriaeth i ni fel ysgolion. Gyda chymaint o bobl a phlant yn gweithio gartref, mae sicrhau digon o dechnoleg yn her. Rydym ni’n diolch i aelodau Clwb Rotari Aberystwyth am eu gwaith. Bydd y gliniaduron a ddarparwyd yn helpu disgyblion i gael mynediad i addysg trwy weddill y cyfnod clo, ac ar ôl i ni ddychwelyd i safleoedd ysgolion. ”
Mynegodd Phil Jones, yr athro sy’n cydlynu’r prosect yn Ysgol Penglais:
“Rydym yn hynod ddiolchgar i dderbyn y gliniaduron y mae Clwb Rotari Aberystwyth wedi’u darparu ar gyfer fyfyrwyr yn Ysgol Penglais. Er bod gwersi yn cael eu cyflwyno ar-lein ar hyn o bryd, yn y sesiynau arferol ar yr amserlen, mae gennym fyfyrwyr yn methu â sicrhau mynediad i’w holl wersi am amryw resymau. Mae gennym rai teuluoedd lle mae llawer o bwysau ar ddyfeisiau yn y cartref, megis pan fo nifer o frodyr a chwiorydd yn y teulu neu bo’r rhieni hefyd yn gweithio gartref. Bydd y gliniaduron hyn yn helpu i leihau’r pwysau hwn, a bydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r myfyrwyr a’u teuluoedd ar adeg mor heriol. Gan y bydd y gliniaduron hyn yn aros gyda’r myfyrwyr, byddant yn parhau i elwa o’r rhodd am flynyddoedd lawer i ddod.”