Difrodi llwybr troed

Difrodwyd rhan o’r llwybr troed sy’n arwain at y bont dros y rheilffordd tu ôl i Feithrinfa Camau Bach.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Tirlithriad yn difrodi llwybr troed yn Aberystwyth - Hawlfraint Huw Evans

Dyma’r olygfa toc wedi 7 bore Sadwrn wedi croesi’r bont ger Ysgol Plascrug a gwthio’r beic lawr y llwybr tu ôl i Feithrinfa Camau Bach. Mae’n edrych yn debyg fod y tir wedi llithro a difrodi un ochr y llwybr. Roedd rhwystrau wedi eu gosod ar y llwybr ers misoedd oherwydd craciau yn y llwybr. Yn ddiweddar ehangwyd y rhwystrau wrth i’r craciau ledu.

Mae’n bwysig nodi nad yw’r llithriad yn effeithio ar y stepiau yn arwain at y bont ar hyn o bryd, dim ond y llwybr graddol i’r rhai sydd ddim yn gallu defnyddio’r stepiau, e.e. rhieni gyda choets a phlant ar ei beic ar y ffordd i’r ysgol.

Hysbyswyd aelod o staff Ceredigion am y sefyllfa a bydd BroAber360 yn ail-ymweld a’r safle yn hwyrach heddiw a chynnig diweddariad.

1 sylw

Huw Llywelyn Evans
Huw Llywelyn Evans

11:00 – Bellach mae rhan o’r llwybr wedi cau ond mae’r stepiau a’r bont ar agor. Mwy o fanylion i ddilyn.

Mae’r sylwadau wedi cau.