Cyn-ddeintydd yn Aberystwyth yn seren fyd-enwog!

Pwy fase’n meddwl y byddai Niclas y Glais yn seren gêm gyfrifiadurol?

gan Gruffudd Huw
Niclas-y-Glais

Llun o’r gêm Hearts of Iron IV.

Roedd Niclas y Glais yn sosialydd, deintydd a bardd yn ei fywyd go iawn. Ond a wyddoch chi ei fod yn chwarae rôl bwysig yn y gêm boblogaidd Hearts of Iron IV (HOI4)? Mae HOI4 yn gêm sy’n efelychu gwleidyddiaeth, economeg a rhyfela cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Felly, beth mae heddychwr brwd fel Niclas y Glais yn ei wneud mewn gêm Ail Ryfel Byd?


Mae Niclas yn ymddangos yn y ‘mod’ (addasiad o gêm gyfrifiadurol) poblogaidd “Kaiserreich” sydd wedi’i lawrlwytho dros 500,000 o weithiau (565,349 erbyn hyn)! Mae’r gêm yn rhoi cyfle i’r chwaraewr fod yn Niclas y Glais – un o’r gwleidyddion sy’n arwain Prydain ac yn gallu creu hanes gwahanol i Brydain yn 30au/40au y ganrif ddiwethaf. 


Ar ddechrau’r gêm mae Prydain sosialaidd yn wynebu etholiad ar gyfer Cyngres yr Undebau Llafur (llywodraeth y wlad). Yma gwelwn Niclas y Glais am y tro cyntaf, yn ymgyrchu dros y garfan ymreolaethol (Autonomists). Fel mae’r enw’n awgrymu, mae Niclas yn ymgyrchu dros ddatganoli ac annibyniaeth i Gymru – nod yr oedd yn ymgyrchu drosto yn ei fywyd go iawn. 


Roedd Niclas yn ddyn arbennig iawn. Bu’n ymgyrchu dros heddwch gan gydweithio â mawrion fel D. J. Williams a CND yn erbyn arfau niwclear, yn tynnu sylw at anghyfiawnder mewn cymdeithas ac yn trin dannedd am ddim mewn sied ar waelod ei ardd yng Nghoedlan y Llwyfen, Aberystwyth! 


Gobeithio nad anghofiwn am y dyn arbennig hwn – o leiaf, mae dros hanner miliwn o bobl ar draws y byd yn ei adnabod nawr! 


Am fwy o wybodaeth am Niclas y Glais, gweler: https://tinyurl.com/y4xk376s  

 

1 sylw

Maldwyn Pryse
Maldwyn Pryse

Erthygl ddiddorol, diolch Gruff

Mae’r sylwadau wedi cau.