Cynog yn galw am ddiwygio Cristnogaeth

Oes yna le i Gristnogaeth yn ein bywydau yn yr 21ain ganrif?

Mererid
gan Mererid

Mae pawb yn nabod Cynog y gwleidydd, ond Cynog yw awdur y llyfr bach yma (o wasg y Lolfa) sydd ar gael yn eich siop lyfrau leol am £4.99. Ysgrifennwyd Pantycelyn A’n Picil Ni Heddiw ar ffurf llythyr ac yn gobeithio ysgogi diddordeb o’r newydd yng ngwaith Williams Pantycelyn gan agor deialog gyda’r genhedlaeth ifanc ynghylch ailddiffinio Cristnogaeth.

Gyda chanlyniadau’r censws ar gael eu cyhoeddi, mae llai o Gymry yn datgan eu bod nhw’n grefyddol erbyn heddiw, a llai fyth yn mynychu addoldy yn rheolaidd. Mae nifer fawr o gapeli yn cau ac yn troi’n adfeilion neu’n cael eu troi yn ail-gartrefi ledled y wlad.

Dywed yr awdur, Cynog Dafis:

Ers blynyddoedd mae rhyw awydd wedi bod arnaf i ysgrifennu rhywbeth am Williams Pantycelyn.

Yn sgil amgylchiadau arbennig fy magwraeth, yn fab i bregethwr, a’r dylanwad mawr gafodd byd y capel ar fy mhrofiadau ffurfiannol, mae Williams Pantycelyn wedi tyfu i fod yn dipyn o obsesiwn personol gen i.

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi peidio â derbyn bodolaeth Duw goruwchnaturiol, ond rwyf wedi para i lynu wrth Gristnogaeth ac yn dal i gredu yn ei gwerth yn ein hoes ni.

Mae angen i ni gofio effaith ddofn a phellgyrhaeddol Pantycelyn a’i bethau ac yn fy marn i mae gan Bantycelyn rywbeth o bwys i’w ddweud wrthon ni heddiw.’

Roedd William Williams Pantycelyn yn ffigwr blaenllaw a blaengar ym mudiad y Diwygiad Methodistaidd yn y 18fed ganrif. Wrth astudio i fod yn ddoctor, newidiodd llwybr ei fywyd ar ôl iddo glywed Howell Harries yn pregethu yn Nhalgarth. Ac aeth ymlaen i fod yn bregethwr, yn llenor ac yn brif emynydd Cymru.

Mae Pantycelyn a’n Picil Ni Heddiw yn archwilio credoau Pantycelyn a Richard Price, cyd-efydydd i Bantycelyn yn Nhalgarth, athronydd moesegol, gweinidog Anghydffurfiol, mathemategydd, diwygiwr gwleidyddol ymysg pethau eraill, a fu’n weithgar yn y 18fed ganrif. Trwy archwilio gwaith y ddau ffigwr, ac wrth ystyried picil y ddynoliaeth heddiw, yma mae Cynog Dafis yn cynnig bod angen ailddiffinio Cristnogaeth, gan awgrymu bydd angen moeseg newydd wedi’i ‘seilio ar ddwysbarch at fyd natur’.‘

Mae’n edrych yn debyg bod yr union Gynnydd sydd wedi gweddnewid ein bywydau (ond nid pawb ohonon -ni), wedi’n tywys ar lwybr seithug ac yn awr yn cyrraedd impasse. Fe ddyblodd poblogaeth y byd yn ystod fy oes i, ac mae gofynion y boblogaeth o ran nwyddau, bwydydd, cartrefi, gofod, moethau hefyd wedi cynyddu ar garlam. Mae yna argyfwng ym mherthynas ecsbloetiadol dynoliaeth a gweddill y byd ac yn bygwth ein hawddfyd, os nad ein goroesiad, ni fel rhywogaeth.’

Gan gloi, mae Cynog Dafis eto’n troi at ddylanwad Pantycelyn:‘

Rhaid i ni sylweddoli bod angen mwy o ostyngeiddrwydd a diolchgarwch am yr hyn sydd gennym ac mai rhodd yw popeth sy’n eiddo i ni.

Trwy ras yr ydyn ni’n cael y fraint o gael byw.

Gall Cristnogaeth feithrin y ffordd yma o weld y byd a byw ynddo. Mae angen i ni ail-ddysgu rhyfeddu at amrywioldeb natur, fel y gwnaeth Pantycelyn.

Ac fel y gwnaeth Pantycelyn, bydd codi’n golygon tua’r nefoedd, tua phellterau’r cosmos, yn peri ni, yng ngeiriau un o’i gymrodyr, “synnu fyth ar synnu” wrth syllu ar yr eangderau a cheisio dirnad y dirgelwch eithaf sy’r tu hwnt iddyn.

Trwy ddefodau megis ymdawelu, gweddïo, cyd-ganu, rhannu bara a gwin y mae Cristnogaeth yn meithrin yr agwedd meddwl yna. Dichon y byddai addasu ac ychwanegu at y defodau cyfarwydd hynny yn pwysleisio pa mor berthnasol ydyn nhw i anghenion ein cyfnod ni.”

Fel Mab y Pregethwr (enw ei lyfr blaenorol), mae Cynog wedi gweld tipyn o newid mewn crefydd.

Mynnwch gopi gan eich siop lyfrau leol neu ar Gwales.