“Cynnydd mawr” yn rhaglen frechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bron i hanner o weithwyr gofal iechyd wedi derbyn eu dos cyntaf

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Macoy98 (CC BY-SA 4.0)

Mae “cynnydd mawr” wedi bod yn y gwaith o gyflwyno’r rhaglen frechu dorfol Covid-19, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Daw hynny wedi i feddygfeydd ar draws y tair sir dderbyn cyflenwad o’r brechlyn.

Yn ôl data a gafodd ei gyhoeddi dros y penwythnos, roedd 18,602 brechlyn wedi cael eu rhoi ers cychwyn y rhaglen frechu.

Cafodd cyfanswm o 6,109 brechlyn eu rhoi rhwng dydd Llun, Ionawr 10 a dydd Sul, Ionawr 17, sydd 4,676 yn fwy o’i gymharu â’r saith diwrnod blaenorol.

Meddygfeydd

Ers yr wythnos ddiwethaf, mae modd i feddygfeydd rannu eu cyflenwadau er mwyn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu cyn gynted â phosib.

Erbyn dydd Sul, Ionawr 17, roedd dros chwarter preswylwyr cartrefi gofal y rhanbarth wedi derbyn eu dos cyntaf.

Bydd pob meddygfa ar draws y tair sir – gan gychwyn yr wythnos hon – yn cael cyflenwad o frechlyn AstraZeneca Rhydychen.

Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cyhoeddi eu bwriad i agor canolfan frechu ychwanegol yn Aberystwyth, er mwyn brechu staff.

Byddan nhw hefyd yn agor canolfan frechu torfol ychwanegol ar gyfer y cyhoedd yn Aberystwyth dros yr wythnosau nesaf.

Y cynnydd hyd yn hyn

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cyhoeddi data wythnosol yn amlygu eu cynnydd.

Dyma’r data diweddaraf:

  • 18,602 o frechlynnau wedi’u rhoi hyd at ddydd Sul, Ionawr 17
  • 6,752 o frechlynnau wedi’u rhoi ers y diweddariad blaenorol (O ddydd Llun, Ionawr 11 i ddydd Sul, Ionawr 17).

Cyfanswm yn ôl grŵp blaenoriaeth:

  • Preswylwyr cartrefi gofal – 692 (25.5%)
  • Gweithwyr cartrefi gofal – 1,341 (38.4%)
  • 80 oed a hŷn – 2,001 (8.8%)
  • Gweithwyr gofal iechyd – 8,810 (42%)
  • Gweithwyr gofal cymdeithasol – 785 (8.1%)

Noder y gall rhai o’r ffigurau hyn amrywio wrth i broblemau ansawdd data gael sylw o ran pennu grwpiau blaenoriaeth.

“Byddwch yn amyneddgar”

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi apelio ar i’r cyhoedd beidio â chysylltu gyda’u meddygfeydd, fferyllfeydd na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd y byddan nhw’n cael eu brechu.

“Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon e-bost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn,” meddai llefarydd mewn datganiad.

“Rydym yn deall bod pobol yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn.

“Peidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.

“Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.”