Mae “cynnydd mawr” wedi bod yn y gwaith o gyflwyno’r rhaglen frechu dorfol Covid-19, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Daw hynny wedi i feddygfeydd ar draws y tair sir dderbyn cyflenwad o’r brechlyn.
Yn ôl data a gafodd ei gyhoeddi dros y penwythnos, roedd 18,602 brechlyn wedi cael eu rhoi ers cychwyn y rhaglen frechu.
Cafodd cyfanswm o 6,109 brechlyn eu rhoi rhwng dydd Llun, Ionawr 10 a dydd Sul, Ionawr 17, sydd 4,676 yn fwy o’i gymharu â’r saith diwrnod blaenorol.
Meddygfeydd
Ers yr wythnos ddiwethaf, mae modd i feddygfeydd rannu eu cyflenwadau er mwyn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu cyn gynted â phosib.
Erbyn dydd Sul, Ionawr 17, roedd dros chwarter preswylwyr cartrefi gofal y rhanbarth wedi derbyn eu dos cyntaf.
Bydd pob meddygfa ar draws y tair sir – gan gychwyn yr wythnos hon – yn cael cyflenwad o frechlyn AstraZeneca Rhydychen.
Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cyhoeddi eu bwriad i agor canolfan frechu ychwanegol yn Aberystwyth, er mwyn brechu staff.
Byddan nhw hefyd yn agor canolfan frechu torfol ychwanegol ar gyfer y cyhoedd yn Aberystwyth dros yr wythnosau nesaf.
Y cynnydd hyd yn hyn
Bydd y Bwrdd Iechyd yn cyhoeddi data wythnosol yn amlygu eu cynnydd.
Dyma’r data diweddaraf:
- 18,602 o frechlynnau wedi’u rhoi hyd at ddydd Sul, Ionawr 17
- 6,752 o frechlynnau wedi’u rhoi ers y diweddariad blaenorol (O ddydd Llun, Ionawr 11 i ddydd Sul, Ionawr 17).
Cyfanswm yn ôl grŵp blaenoriaeth:
- Preswylwyr cartrefi gofal – 692 (25.5%)
- Gweithwyr cartrefi gofal – 1,341 (38.4%)
- 80 oed a hŷn – 2,001 (8.8%)
- Gweithwyr gofal iechyd – 8,810 (42%)
- Gweithwyr gofal cymdeithasol – 785 (8.1%)
Noder y gall rhai o’r ffigurau hyn amrywio wrth i broblemau ansawdd data gael sylw o ran pennu grwpiau blaenoriaeth.
“Byddwch yn amyneddgar”
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi apelio ar i’r cyhoedd beidio â chysylltu gyda’u meddygfeydd, fferyllfeydd na’r bwrdd iechyd i gael gwybod pryd y byddan nhw’n cael eu brechu.
“Yr wythnos hon, mae gwasanaethau iechyd wedi cael eu boddi gan alwadau a negeseuon e-bost gan y cyhoedd yn ymholi am y brechlyn,” meddai llefarydd mewn datganiad.
“Rydym yn deall bod pobol yn bryderus ac eisiau gwybod pryd y gallant gael y brechlyn.
“Peidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu, fferyllfa neu fwrdd iechyd; cysylltir â chi pan fydd eich tro chi.
“Gwahoddir pobl i gael y brechlyn yn nhrefn blaenoriaeth, felly byddwch yn amyneddgar.”