Cyngor Llyfrau (a’u staff) yn dathlu 60

Dathlu 60 yn y Cyngor Llyfrau

Mererid
gan Mererid

Beth ddigwyddodd yn 1961? Ar yr wythnos yma, ganed Gareth James a Margaret Evans, dau o staff Cyngor Llyfrau Cymru – ar yr un wythnos a sefydlu’r Cyngor Llyfrau.

Mae Gareth yn byw yn Aberystwyth, tra mae Margaret yn byw yn y Bow Street. Nid nhw yw’r staff sydd wedi bod gyda’r Cyngor Llyfrau fodd bynnag, gan fod Geraint Williams (hefyd o Bow Street) wedi dathlu 44 mlynedd o weithio gyda Chyngor, a’i wraig Eiry, sydd yn gweithio yn y Cyngor ers 39 mlynedd. Diolch iddynt i gyd am eu hoes o wasanaeth. Diolch i Gaenor Evans am wneud y gacen.

Staff y Ganolfan nol yn Nadolig 2018

Drwy’r wythnos yma, mae’r Cyngor Llyfrau yn dathlu drwy: –

Beth am ymuno yn y dathlu ar y cyfryngau cymdeithasol?

Yn y cyfamser, dyma brif neges y strategaeth: –

Cymru: Cenedl o Ddarllenwyr

Am 60 mlynedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi ymroi i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a hybu darllen er pleser.

A ninnau’n nodi’n pen-blwydd, rydym yn falch iawn o rannu’n strategaeth newydd sy’n datgan ein huchelgeisiau a’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y byddwn yn parhau â’n cenhadaeth o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yng nghyd-destun yr adferiad yn dilyn Covid, gan gyfrannu i raglen lywodraethu a Datganiad Llesiant Llywodraeth Cymru a chefnogi’r diwydiant wrth iddo ymateb i gyfleoedd a heriau’r dyfodol.

1 sylw

William Owen
William Owen

Gen i gof mai Cyngor Llyfrau Cymraeg oedd enw’r corff adeg ei enedigaeth. Bu farw hwnnw cyn cyrraedd ei drigain.

Mae’r sylwadau wedi cau.