“Yn y cyfnod hwn o straen mawr, mae iechyd meddwl yn dod yn bandemig ei hun”

Codi arian i ddiolch i wasanaeth iechyd meddwl Gorwelion

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Kirsten Davies, 24 oed o Benparcau, Aberystwyth wedi dewis wynebu her gorfforol ym mis Mawrth, er mwyn rhoi yn ôl i’r tîm Gwasanaeth Iechyd a fu’n help iddi yn ystod cyfnod anodd gyda’i hiechyd meddwl.

Ei nod, yw rhedeg 15 cilomedr mewn digwyddiad codi arian ar gyfer Adnodd Iechyd Meddwl Gorwelion yn Aberystwyth.

Gosododd darged o godi £500 i ddechrau, ond rhagorodd Kirsten ar ei nod o fewn dyddiau i lansio tudalen JustGiving.

Gyda dros fis i fynd, mae ei chyfanswm wedi cyrraedd £1,200!

“Rhoi gwybod i bobl bod help ar gael”

“Yn y cyfnod hwn o straen mawr, mae iechyd meddwl yn dod yn bandemig ei hun,” meddai.

“Rwy’n angerddol dros godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a rhoi gwybod i bobl bod help ar gael a hynny yn y gymuned leol.

“Roedd gwasanaethau Gorwelion yno i mi pan oeddwn eu hangen. Pan oeddwn yn dioddef yn wael gyda’m hiechyd meddwl roedd cymorth yno i mi.

“Roeddwn yn fwy na rhif ac yn hapus â’r gwasanaeth. Rwy’n gwybod os bydd arna’i angen help eto, byddant yno.

“Dyna pam rwyf am roi rhywbeth yn ôl.”

“Dydych chi byth yn gwybod”

Dywedodd ei bod eisiau addysgu pobl a allai fod yn cael trafferth â’u hiechyd meddwl bod cymorth proffesiynol ar gael yn lleol.

“Nid oes llawer o bobl yn gwybod am Gorwelion, mae pobl yn clywed am yr elusennau a’r systemau cymorth iechyd meddwl mwy o faint,” meddai.

“Felly rwyf am godi ymwybyddiaeth ac arian i sicrhau y gall Gorwelion fod yno i gefnogi mwy o bobl fel fi.

“Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd iechyd meddwl yn eich taro.”

Dywedodd bod ymgymryd â’r her hefyd yn ffordd iddi barhau i wella ei hiechyd meddwl ei hun, yn ogystal â helpu eraill.

“Bydd hon yn her anodd i mi gan nad wyf wedi rhedeg am oesoedd,” meddai, “ond rydw i’n hyfforddi nawr ac yn gweithio tuag at nod, mae rhedeg yn help mawr i’m hiechyd meddwl.

“Rwy’n gwybod unwaith y byddaf yn dechrau’r her, byddaf yn benderfynol o’i chwblhau.”

“Wirioneddol ysbrydoledig”

“Rydym bob amser yn ddiolchgar pan fydd pobl yn cymryd yr amser i gefnogi ein gwaith, gan ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau sydd y tu hwnt i’r hyn y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei ddarparu,” meddai Rheolwr Codi Arian, Elusennau Iechyd Hywel Dda, Tara Nickerson.

“Mae’n wirioneddol ysbrydoledig pan fydd pobl sydd wedi cael gofal y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn penderfynu rhoi yn ôl, fel y mae Kirsten yn gwneud.

“Bydd yr arian y mae’n ei godi o fudd uniongyrchol i gleifion a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Gorwelion.”