Cyfle i grwydro Ceredigion

Cadwch lygad ar bosteri ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ gan y Cyngor Sir am syniadau ar gyfer eich taith nesaf

Megan Lewis
gan Megan Lewis

A ydych chi’n mwynhau cerdded a chrwydro eich milltir sgwâr? Efallai eich bod wedi dod o hyd i lwybrau newydd yn eich ardal yn ystod y cyfnod clo?

Dros y misoedd nesaf, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn cyhoeddi cyfres o lwybrau cerdded i chi eu mwynhau. Cadwch lygad am bosteri ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ ar wefan a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Bydd llwybrau hir a byr yn cael eu cynnig ledled y sir, felly bydd rhywbeth yno at ddant pawb.

Swyn y Sir

Dyma’r cyfle perffaith i fwynhau ac edmygu clogwyni uchel, cilfachau cysgodol, cymoedd coediog, bryniau tonnog, dyffrynnoedd glas a nentydd parablus Ceredigion. Mae yna gyfoeth i’w ryfeddu ato, ac mae’r bywyd gwyllt, y trefi, y pentrefi a’r ffermydd hefyd yn cyfrannu at swyn y sir.

Drwy lwc, mae dros 2500km o Lwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cyd-blethu ledled y sir. Maent yn cynnig mynediad i’r rheiny sydd am fentro ar droed, ar feic neu ar gefn ceffyl i fannau a fyddai fel arall o’r golwg.

Pethau i’w cofio

Yn ogystal ag esgidiau cerdded cadarn sy’n dal dŵr, dylech wisgo dillad sy’n briodol i’r tywydd a dod â diheintydd dwylo, dŵr yfed a map OS diweddar o’r ardal gyda chi. Cofiwch gadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill ac ymddwyn yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Gallwch gael copi e-daflen o’r llwybrau oddi wrth yr Adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar wefan y Cyngor. Mae’r rhain wedi’u cysylltu ag ardaloedd penodol ac yn cynnig gwybodaeth am broffil y llwybr, y pellter, sut wyneb sydd i’r llwybr, mannau parcio cyfleus ac a oes cyfleusterau eraill wrth law. Yn ogystal â’r e-daflenni, mae map rhyngweithiol ar gael sy’n dangos yr holl Lwybrau Tramwy Cyhoeddus fel bod modd i ddefnyddwyr gynllunio eu hanturiaethau eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio: “Mae gan Geredigion gymaint o deithiau cerdded i’w cynnig. Bydd hyrwyddo gwahanol lwybrau bob pythefnos nid yn unig yn annog twristiaid i ymweld ond hefyd yn annog pobl leol i fynd i archwilio safleoedd prydferth Ceredigion.”

Cofiwch fod y llwybrau hyn yn croesi tir preifat a bod angen dilyn y Côd Cefn Gwlad bob amser.

Gwybodaeth bellach

Ewch i dudalen Archwilio Ceredigion ar wefan y Cyngor am fwy o wybodaeth: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/yr-arfordir-a-chefn-gwlad/archwilio-ceredigion/crwydro-a-farchogi/. Gallwch hefyd anfon neges e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm Arfordir a Chefn gwlad.

Pob hwyl ar eich taith!