Newyddion gwych! Mae cwmni lleol Aber Instruments wedi cyfrannu £500 i elusen Tîm pêl-fasged Cadair Olwyn Aberystwyth i brynu offer pêl-fasged ?.
Sefydlwyd Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn Aberystwyth, a elwir hefyd yn West Coast Warriors yn 2011 ac ers hynny wedi tyfu o nerth i nerth. Eu Prif Hyfforddwr oedd Lee Coulson BEM a oedd yn Chwaraeon y DU, Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn 2018.
Gan nad yw Canolfan Hamdden Plascrug wedi ail-agor, mae’r Clwb Pêl-fasged yn cwrdd yn neuadd chwaraeon Ysgol Penglais.
Maent yn cwrdd dwywaith yr wythnos ar: –
- Sesiwn hwyl, Nos Iau 6pm-6.45 yr hwyr
- Sesiwn hyfforddi tîm, Nos Iau, 6.45-7.45 yr hwyr
Dan Frisby yw hyfforddwr y clwb ac ef sydd yn derbyn y siwc gan Christina Evans (ar ran Aber Instruments).
Cwmni sydd dan berchnogaeth y staff yw Aber Instruments, ac maent yn gwneud cyfraniadau i elusennau lleol bob blwyddyn. Gellir cael mwy o fanylion ar y wefan.