O Asia i Aberystwyth – Croeso arbennig gan Gymry i farchnad newydd

Marchnad fwyd Asaidd wedi ail agor ar ol cyfnod o ail osod y Siop ar Ffynnon Haearn.

Mererid
gan Mererid

Ym mis Awst, ail-agorodd marchnad fwyd Asia Market ar Ffynnon Haearn (Chalybeate Street).

O dras Cwrdaidd, symudodd Kurdo o Gaerdydd i Aberystwyth wedi i gefnder iddo nodi lleoliad addas a photensial y farchnad. Maent yn cael cynnyrch arbenigol iawn, sydd ddim ar gael mewn archfarchnadoedd neu siopau eraill yng Ngogledd Ceredigion.

Dywed Kurdo: –

Rydym yn hynod o falch o’r croeso rydym wedi ei gael yng Nghymru. Mae pawb wedi bod mor gefnogol, ac yn dda gweld cefnogaeth i geiswyr lloches fel ninnau. Mae fy mrawd a minnau yn gwerthfawrogi pob cefnogaeth.

Mae’r siop yn arbenigo mewn bwyd o Asia, ond sydd hefyd yn addas ar gyfer bwyd Affricanaidd neu’r Dwyrain Canol.

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos tan 10 o’r gloch y nos, mae’r farchnad ar agor am oriau hir, ac a nifer o ffrwythau a llysiau anarferol, gan gynnwys ffrwythau mawr iawn fel yr isod: –

Mae’n hefyd yn stocio backlavas melys i rai ohonoch chi sydd yn hoff o’ch pwdin

Dywedodd Kurdo ei fod wedi cael croeso mor arbennig yn Aberystwyth, ac yn teimlo fod cefnogi’r iaith Gymraeg yn bwysig yn yr ardal. Mae’n mynychu gym Atomic, ac eisiau bod yn rhan o gymuned Aberystwyth lle mae’n gallu.

 

Beth am fynd i gael golwg a chefnogi busnes sydd yn gwerthfawrogi’r Iaith Gymraeg?

1 sylw

Eirwen Benjamin
Eirwen Benjamin

Siop arbennig o dda, efo bwydydd diddorol a newydd, enwedig y llysiau ffres. Byth wedi gweld na chlywed am rhai o nhw o’r blaen, ond ma gan y perchennog top tips o sut i coginio’r cynnyrch.
5 seren!

Mae’r sylwadau wedi cau.