Croesawu’r Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol i Danycastell

Paratoadau munud ola ar gyfer y Treialon Rhyngwladol sy’n cael eu cynnal y penwythnos hwn 

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Tra bo’r haul yn machlud dros Fae Ceredigion heno, roedd trefnwyr y Treialon Rhyngwladol ar gaeau Tanycastell yn sicrhau bod pob giât, corlan a ffens yn eu lle yn barod at benwythnos mawr o gystadlu.

Bydd cystadleuwyr timau Cymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn mynd ben-ben y penwythnos hwn (10-12 Medi), gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar y dydd Sul.

Dyma fydd penllanw dwy flynedd o waith cynllunio gan y Pwyllgor Lleol yng Ngheredigion sydd wedi gweithio’n ddiwyd gan ymateb i sawl her, gan gynnwys pandemig byd-eang!

Pen-blwydd arbennig

Un cystadleuydd o ddiddordeb i ardal papur bro Y Ddolen yw Idris Morgan, gynt o Fanc Llyn y Mynydd Bach.

Bydd yn cystadlu gyda’i gi Pwtyn ar benwythnos ei ben-blwydd yn 90 oed.

Dyna ddangos amrywiaeth y gamp hynod hon – nid oes gwahaniaeth beth yw eich oedran, eich rhyw na’ch cefndir, gall unrhyw un hyfforddi ci defaid a chystadlu mewn treialon o’r fath. Pob lwc, Idris!

Ffon fugail

Yn ogystal, bydd ffon fugail arbennig yn cael ei gwerthu mewn arwerthiant ar-lein ar ddydd Sul 12 Medi. Lluniwyd y ffon gan y crefftwr Dafydd Davies o Landdewi Brefi gyda’r elw yn mynd at goffrau’r treialon.

Gwylio’r cyffro

Er mai digwyddiad caeedig fydd y treialon eleni i’r cystadleuwyr, y stiwardiaid a’r beirniad yn unig, bydd cyfle i unrhyw un wylio’r cyfan yn cael ei ffrydio’n fyw ar y We: Cofrestru a Gwylio

Cadwch olwg hefyd am ddiweddariadau ar wefan BroAber360 trwy gydol y penwythnos.

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu.