“Sai’n credu bydde fe’n rhywbeth bydden ni’n gwneud”

Ymateb perchennog tafarn Yr Hen Lew Du i’r syniad o wirio ‘tystysgrifau brechu Covid’ cwsmeriaid

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Tafarn Y Llew Du ar Heol y Bont

Mae Sara Beechey, perchennog tafarn Yr Hen Lew du, wedi ymateb i awgrym Boris Johnson y dylai landlordiaid wirio ‘tystysgrifau brechu Covid’ cwsmeriaid wrth y drws.

Er nad oes penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â’r mater, mae adroddiadau’n nodi y gellid sgrapio rheolau ymbellhau mewn tafarndai, os yw tystysgrifau cwsmeriaid yn cael eu gwirio.

Mae rhai Gweinidogion, ar lefel Brydeinig, o’r farn byddai hynny’n caniatáu i dafarnwyr weithredu mewn modd mwy proffidiol.

Fodd bynnag, mae Sara Beechey yn teimlo y byddai’n creu fwy o drafferth na’i werth, gan greu rhwystrau ymarferol ychwanegol i staff a pheryglu eithrio cyfradd o’i cwsmeriaid.

“Stressful fel oedd hi”

“Sai’n credu bydde fe’n rhywbeth bydden ni’n gwneud,” meddai.

“Pan oedden ni ar agor, roedd yr holl waith roedden ni’n gorfod gwneud wrth y drws i adael pobol i mewn yn waith caled ac oedd e eithaf stressful fel oedd hi.

“Trio controlio’r ciw, gwirio ID a thystysgrif vaccine … byddai’r admin tu ôl i adael pobol i mewn yn golygu lot o waith.

“Hefyd mae ein cwsmeriaid ni yn ifanc iawn – rhwng 18 lan i 30, so rheini fydd y rhai diwethaf i gael y vaccine a ‘se fe’n dod i mewn fel rheol, byddai stopio darn mawr o’r boblogaeth i ddod i mewn i dafarndai.

“Sai’n gweld ein math ni o dafarn yn gallu gwneud e rili a hyd yn oes os wyt ti’n dafarn fach, fyddai rhaid cael rhywun ar y drws i fonitro.

“Sai’n gweld e’n digwydd,” meddai.

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.