Codi arian elusenol eto!

Taith Tractorau

Nia Gore
gan Nia Gore
inbound2249276965652828236

Nawr fod rhwystrau wedi llaco chydig, dwi wrthi yn trefnu taith tractorau, er cof am Dad-cu, Ken Hughes. Bydd yr arian a godir yn mynd at Feiciau Gwaed Cymru Aberystwyth ac uned Chemotherapi Bronglais.

Llynedd nes I rhedeg 5k elusennol ar ôl colli 6st! Felly ma taith tractorau chydig yn hawddach! Hyd yn hyn mewn 5 mlynedd dwi wedi codi £16,800, gyda chymorth ffrindie a chefnogwyr arbennig.

Dwi’n gobeithio cael llawer o dractorau allan i fwynhau 20 milltir o hewlydd bach y wlad a chodi arian at elusennau lleol i Aberystwyth.

Os oes rhywun angen manylion pellach, cysylltwch â fi <niagore91@gmail.com> neu ffonio 07968 652822.