Codi arian at elusen Rhyddid Rhag Artaith

Mae pob cam bach yn helpu’r rhai sydd wedi dioddef

gan Sue jones davies

Dydd Sul diwethaf, 10 Hydref aeth criw o aelodau cangen leol Rhyddid Rhag Artaith ar daith noddedig fel rhan o ymgyrch yr elusen “Croesi’r Dyfroedd.”

Roedd y tywydd yn fendigedig a cherddasom yn Tan-y-bwlch, gan groesi’r Ystwyth ddwywaith.

Os oes unrhyw un eisiau cyfrannu, ewch i freedomfromtorture.org ac os hoffech gael mwy o wybodaeth am y grŵp cysylltwch â Sue.jonesdavies@gmail.com