YN FYW: Clera Ceredigion

Dyma blog byw o daith Arad Goch yn cyflwyno eich straeon chi yn eich ardal chi 

Arad Goch
gan Arad Goch

Mae CLERA Ceredigion wedi cychwyn ac ar y ffordd i bentrefi a threfi o amgylch y sir. Cadwch lygaid allan yn eich ardal chi i weld os fydd y cymeriadau yn mynd heibio ?

Ar y wefan hon fe fydd y cyfle gyda chi i ymateb a cynnig eich straeon chi o’ch ardal chi.

Dilynnwch y blog am y pum wythnos nesaf i weld a fydd Arad Goch yn dod i chi.

10:58

I’R LLEOLIAD NESAF!

Ymlaen i Bontarfynach am 12!

Diolch Penparcau unwaith eto am y croeso hyfryd. 

Gobeithio caethoch chi eich diddanu!

09:04

BORE DA!

Croeso i ddiwrnod arall o berfformiadau Clera! ?

Ymunwch â ni ym Mhenparcau am 10 ac anfonwch unrhyw luniau neu glipiau sydd gennych atom ni! 

19:05

DIOLCH!

Diolch i bawb a ddeath i wylio ni heddi! ?
Ymunwch â ni fory ym Mhenparcau am 10 a Phontarfynach am 12 ?

15:48

DEWCH DRAW!

Cofiwch byddwn ni ym Mhenparcau am 5 heno ac os oes gennych unrhyw luniau anfonwch draw i ni ar ein cyfryngau cymdeithasol neu ar y wefan hon!

13:00

YMLAEN!

Diolch i bawb a ddaeth i wylio’r perfformiad ym Mhlascrug!

Nawr ymlaen i’n perfformiad nesaf ym Mhenparcau am 5 heno!

Ydych chi wedi gweld perfformiad eto? 

11:01

Diwrnod Perfformio!

Mae’r dydd wedi dod unwaith eto! ?

Ymunwch â ni ym Mhlascrug am 11 i gael gweld a gwrando ar hanes Ceredigion! ?

11:34

CROESO NÔL!

Wythnos arall o deithio Ceredigion gyda amrywiaeth o berfformiadau ar strydoedd y sir i ddiddanu unrhywun sydd o gwympas.

Felly, dyma’n lleoliadau ar gyfer yr wythnos nesaf!

Dydd Mawrth 29/06 – 11y.b – Plascrug Aberystwyth

Dydd Mawrth 29/06 – 5-7y.h – Penparcau

Dydd Mercher 30/06 – 10-11y.b – Penparcau

Dydd Mercher 30/06 – 12-3:30y.h – Pontarfynach

Dydd Iau 01/07 – 10-11:30y.b – Llanrhystud

Dydd Iau 01/07 – 12:30 – Penparcau

Dydd Gwener 02/07 – 2-4y.h – Penparcau

Dydd Gwener 02/07 – 4:30-6:30 – Promenade Aberystwyth

Dydd Sadwrn 03/07 – 11-1y.h – Aberaeron

Dydd Sadwrn 03/07 – 4y.h Rhydypennau

Dydd Sadwrn 03/07 – 5y.h – Sgwar Talybont

Ymunwch â ni ar ein taith!

15:34

DYNA’R DIWEDD!

Diolch Aberystwyth unwaith eto!

Ni wir wedi mwynhau crwydro a chlera o amgylch y dref dros y diwrnodau diwethaf.

Gobeithio cewch chi gyfle arall i’n gweld ni dros yr wythnosau nesaf!

14:19

SESIWN PRYNHAWN!

Amser i gychwyn y daith unwaith eto! ?

Byddwn ni’n perfformio o 2-4 felly dewch yn gyflym!

13:10

A dyna ddiwedd i berfformiad arall!


Fe fyddwn ni’n Clera unwaith eto yn Aberystwyth am 2 o’r gloch! ?