Cewri Cei Connah’n Curo Aber

Aberystwyth 0 – 1 Cei Connah 3/12/2021

gan Gruffudd Huw
Aber-v-Cei-Connah-4
Aber-v-Cei-Connah

Mendes yn ddraenen gyson yn ystlys Aber

Aber-v-Cei-Connah

Saib i sgwrsio gyda’r dyfarnwr!

Ar ôl pythefnos o orffwys i Aber, roedd rhaid gwynebu’r pencampwyr – Cei Connah. Roedd Aber ar rediad da o dair gêm yn ddiguro, gan gynnwys buddugoliaeth yn erbyn y Seintiau Newydd. Rhediad oedd wedi codi Aber i’r nawfed safle.

Fe reolodd yr ymwelwyr y meddiant yn yr hanner cyntaf gan greu llawer o gyfleoedd, ond yn bwysicach sgorio unig gôl y gêm. Aber oedd y tîm gorau yn yr ail hanner gan ddod yn agos ar sawl achlysur ond methu rhoi’r bêl yn y rhwyd.

Er gwaethaf rheolaeth yr ymwelwyr ar y gêm, roedd Zabret yn gadarn yn y gôl i Aber. Roedd rhaid i’r gŵr o Slofenia dangos ei dalent ar sawl achlysur yn gynnar yn y gêm gydag arbediadau o safon. Er enghraifft, wedi 10 munud o chwarae ergydiodd Aeron Edwards o ochr y cwrt cyn gwyro oddi ar Louis Bradford. Roedd y bêl ar ei ffordd i’r cornel gwaelod chwith ond ymatebodd Zabret fel fflach a llawiodd y bêl oddi ar y llinell. Enillodd Cei Connah gornel yn syth wedyn ac roedd rhaid i Zabret arbed ei dîm unwaith eto wrth i gapten yr ymwelwyr, George Horan, benio tuag at gornel dde’r gôl.

Daeth ymosodiadau’r ymwelwyr fel ton ar ôl ton tuag at amddiffyn Aber ac ar ôl 31 munud death y gôl gyntaf. Cyn chwaraewr Aber – Paulo Mendes – sgoriodd i Gei Connah gyda pheniad pwerus ar ôl croesiad peryglus o’r asgell dde.

Gyda’r ymwelwyr ar y blaen ar yr hanner, roedd angen perfformiad grymus gan y tîm cartref yn yr ail hanner. Dechreuodd Aber yn llawer mwy hyderus yn yr ail hanner gan ymosod yn gyson gyda Chei Connah’n amddiffyn yn ddwfn. 

Wedi 57 munud, roedd hi’n edrych fel petai Aber wedi ennill cic o’r smotyn. Lloriwyd Harry Franklin yn y cwrt wedi symudiad da gan Jon Owen a Matty Jones. Chwythodd y dyfarnwr ei chwiban ond er syndod i bawb, Franklin nid yr amddiffynnwr a gosbwyd ac fe dderbyniodd gerdyn melyn gan y dyfarnwr am ddeifio!

Pedair munud yn ddiweddarach, bu bron i Aber ddod yn gyfartal. Ciciwyd y bêl i mewn i’r cwrt o gic rydd hir ac fe beniodd Jenkins y bêl yn gywrain i draed Franklin. Ergydiodd Franklin ond arbedwyd yr ergyd gan Byrne cyn i Aeron Edwards ei glirio.

Roedd Aber yn parhau i bwyso yn hanner awr olaf y gêm ac roedd y cyfleoedd yn dal i lifo. Wedi 64 munud pasiodd Jack Rimmer i Owen, ond arbedwyd yr ergyd unwaith eto gan Byrne. Matty Jones gafodd y cyfle nesaf wrth iddo ergydio’n isel o ochr y cwrt ond roedd Byrne yn gadarn yn y gôl. Yn y funud olaf, enillodd Aber gic rydd mewn safle addawol iawn. Yn anffodus, ni fedrodd Jamie Veale i godi’r bêl dros y wal.

Gêm o ddwy hanner felly gyda pherfformiad grymus yn yr ail hanner gan y tîm cartref wedi pythefnos o orffwys.

Bydd rhaid chwarae gêm anodd nos Wener nesaf, wrth i Aber groesawi’r Drenewydd sy’n drydedd yn y gynghrair i Goedlan y Parc. Dewch draw i wylio.

Uchafbwyntiau Sgorio: https://twitter.com/sgorio/status/1466906355302903829  

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.