Mis Mai – Mis Cerdded Cenedlaethol

Ar ddechrau mis cenedlaethol cerdded mae Dana Edwards yn ein harwain ar un o’i hoff deithiau 

Dana Edwards
gan Dana Edwards

Diolch i BroAber360 am y gwahoddiad i sôn am un o’m hoff deithie cerdded. Taith yng Ngogledd y Sir oedd y gofyn a dyna a gewch!

Mae’r daith yn dechrau bron yn eithafion pellaf y sir – ym mhentref Ffwrnes, rhwng Taliesin ac Eglwys Fach.

A yw’r daith i chi?

Mae’n gylchdaith 3½ milltir, mae’n cymryd tua awr a hanner i’w cherdded, a 9,000 o gamau! Mae ‘na ychydig o ddringo i ddechrau, yna byddwch yn cerdded ar hyd y bryn sy’n cynnig golygfeydd gwych dros y Dyfi, cyn cwblhau’r daith ar waelod coediog y dyffryn.

Parcio

Parciwch yn y Maes Parcio gyferbyn â’r Olwyn Ddŵr sydd o dan ofalaeth CADW.

Croeswch y ffordd fawr a chymerwch sbel fach i gerdded o amgylch yr adeilad hanesyddol hwn. Adeiladwyd tua 1755 i fwyndoddi haearn. Bu’n weithredol am tua phumdeg mlynedd, ac wedi hynny defnyddiwyd yr adeilad fel melin lifio.

Dechrau’r daith

Arhoswch ar yr un ochr â’r olwyn gan droi tua’r de (i gyfeiriad Aberystwyth) am ychydig lathennu cyn cymryd y ffordd fach ar eich chwith (arwyddbost Artists Valley/Cwm Einion).

Cerddwch i fyny’r ffordd yma (mae’n weddol serth) nes i chi weld lôn gerdded yn syth o’ch blaen (mae’r ffordd darmac yn gwyro i’ch chwith). Ond ewch chi yn syth ymlaen (mae yna arwyddbost cerdded yma). Mae’r llwybr caregog serth yn reit arw (mae angen bŵts cerdded), ac mae’n medru bod ychydig yn wlyb. Arhoswch ar y llwybr nes dod i’r gyffordd gyntaf.

Trowch i’r chwith (nid oeddwn i yn medru gweld bod arwydd cerdded yma pan wnes i’r wâc ar 24/4.) Mae’r ffordd gerdded weddol lydan yma yn eich arwain i gyfeiriad y gogledd. Yn fuan iawn fe welwch olygfeydd godidog o’r Dyfi islaw.

Yn fuan byddwch yn cerdded ar hyd llwybr coediog cyn gweld afon Einion islaw. Oedwch os cewch gyfle wrth groesi’r bompren i fwynhau sisial y dŵr – neu mae’r afon yn fâs yma, ac ar ddiwrnod twym mae’n hyfryd iawn eistedd ennyd ar lan yr afon.

Dringo ychydig eto gan basio bwthyn deniadol, ond diarffordd iawn gyda’i ffenestri a’i ddrws glas. Ar y pen hewl dewch i ffordd darmac unwaith eto. Trowch i’r chwith.

Ar ôl cerdded ychydig fetrau ar y ffordd sengl darmac yma cymerwch lwybr troed ar y dde sy’n dringo eto (ffoto 10).

Ymhen rhai munudau fe ddewch i fainc lle mae modd mwynhau hoe a’r golygfeydd gwych ar hyn yr arfordir. Panorama go iawn.

Ymhen rhyw ddeng munud bydd llwybr yn eich arwain i lawr y bryn i’r chwith. Dilynwch hwn (mae yna ffermdy o’ch blaen a nifer o siediau o’i flaen (ffoto 15).

Pan gyrhaeddwch y ffordd o flaen y ffermdy hwn trowch i’r chwith (nid i’r dde, sy’n eich arwain ar ddarn o lwybr yr arfordir). Nawr medrwch ymlacio wrth gerdded ar hyd y dyffryn.

Byddwch yn pasio cofeb yn y cae ar y chwith (ffoto 16 – o’r hyn a welaf, nid oes modd mynd ato bellach heb ddringo dwy iet). Yn fuan ar ôl y gofeb hon bydd arwydd yn eich arwain at lwybr ar y chwith, dilynwch hwn gan adael y ffordd darmac unwaith eto.

Dilynwch y llwybr coediog yma nes dod i ffordd darmac trac sengl arall. Trowch i’r dde (ffoto 17). Mae’r ffordd yma yn dod a chi nôl i’r ffordd fawr (A487) gyferbyn â’r capel ym mhentref Ffwrnes. Trowch i’r chwith ar hyd y ffordd fawr.

Ymhen munudau byddwch nôl wrth yr Olwyn, wedi blino ac wedi joio rwy’n gobeithio!

Enwebiad nesaf

Rwy’n enwebu Catrin MS Davies nesa i rannu wâc â ni.