Cegin Patagonia yn agor yng Ngogledd Ceredigion

Angeles sydd yn dechrau busnes coginio bwyd o’r Ariannin i’w cludo i’ch cartref.

Mererid
gan Mererid

Mae Angeles Santos Rees, sydd yn wreiddiol o’r Ariannin, wedi dechrau busnes newydd yn arbenigo mewn bwyd o’r Ariannin, Cegin Patagonia. Mae’r busnes yn canolbwyntio ar ei hoff fwyd: Empanadas! Maent yn dod mewn 4 blas gwahanol, cig eidion, cyw iâr, caprese (ham, caws, tomato a basil), neu gaws a nionod. Rhaid prynu mewn set o 6 ond maent yn dosbarthu o fewn 10 milltir i Aberystwyth.

Cafodd ei magu gyda’r arferiad o wahodd teulu a ffrindiau ynghyd o leiaf unwaith yr wythnos, lle byddent yn coginio bwyd traddodiadol a dilys iddynt.

Er ei bod yn dod o deulu traddodiadol o’r Ariannin sydd â chefndir Eidalaidd, Ffrengig, Sbaeneg, Groegaidd, Twrcaidd (a mwy), gwahanol flasau, aroglau cyfoethog, a chariad at “fwyd da”.

Mae’n defnyddio cynhwysion ffres lleol ac o ansawdd uchel o Gymru i wneud yr Empanadas, gan roi cyffyrddiad Cymraeg arbennig iddynt.

Dewisodd yr enw Cegin Patagonia ar gyfer y cwlwm arbennig a chofiadwy sydd gan Gymru a Patagonia.

Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o fusnesi ei gwr, Aled Rees, sydd yn rhedeg Teithiau Tango, Siop y Pethe a chyd-redeg Byrger.  Pob lwc i chi i Angeles a’r teulu.