Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am ohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan fist Awst 2022 mae’r pwyllgor profiad ymwelwyr am wneud cynnig arbennig ar nwyddau oedd eisoes wedi eu cynhyrchu ar gyfer y brifwyl.
Gwelodd y nwyddau olau dydd yn wreiddiol yn yr ŵyl gyhoeddi yn 2019 ond ers hynny, ac yn sgil effaith Covid-19, mae’r Eisteddfod wedi ei gohirio ddwywaith, a’r gobaith erbyn hyn yw y caiff ei chynnal yn Nhregaron yn 2022.
O ganlyniad, mae’r nwyddau bellach yn cael eu ystyried fel rhai go unigryw gyda’r dyddiad 2020 arnynt, ac maent ar gael nawr am bris gostyngol am gyfnod. Yn ôl cadeirydd y pwyllgor profiad ymwelwyr, Deina Hockenhull,
“Mae’r nwyddau a gynhyrchwyd wedi profi yn hynod boblogaidd mor belled ond mae’r pandemig yn anffodus wedi golygu na chawsom y cyfleoedd cyflawn i’w gwerthu wrth i ni baratoi ar gyfer yr Eisteddfod yn 2020.
“Mae hwn yn gyfle felly i chi gael gafael ar dalp bach o hanes, a hynny am bris rhesymol – a chefnogi’r Eisteddfod yr un pryd.
“A ga’ i bwysleisio mai dyma’r tro olaf fydd y Cardis yn cynnig bargen cystal!”
Mae hwdis a chrysau–T ar gael i blant ac oedolion, gyda’r prisiau yn dechrau yn £2.50 am grys-T plentyn i £10 am hwdi oedolyn – bargen heb ei hail.
Mae’r cynnig hwn ar gael am gyfnod penodol yn unig, felly manteisiwch ar y cyfle yn fuan.
Os hoffech archebu, cysylltwch â Nia ar niawynmaesglas@gmail.com neu ffoniwch 01570 480015 neu 07968 223653.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron ar 30 Gorffennaf-6 Awst 2022. Am fwy o wybodaeth, ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.