Cais cynllunio i adeiladu tai preswyl yn sbarduno gwrthwynebiad cryf yn lleol

“Mae shwt gymaint o resymau pam dyle nhw ail-ystyried ac ail-edrych ar y lleoliad”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

T

Mae cais cynllunio i adeiladau tai preswyl ar ddarn o dir sy’n ffinio Hafan y Waun, Erw Goch a Chefn Esgair yn Aberystwyth, wedi sbarduno gwrthwynebiad cryf ymhlith trigolion yr ardal leol.

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal nos Lun (Chwefror 8) gydag dros 60 o bobl leol, Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymunedol i drafod eu gofidion.

Un o’r prif bryderon yw’r risg y byddai’r datblygiad yn gwaethygu llifogydd yn yr ardal, tra bod goblygiadau amgylcheddol a materion yn ymwneud a thrafnidiaeth hefyd yn peri gofid.

“Bydda fe’n golled fawr i’r ardal”

“Yn y cyfarfod nos Lun, roedd pawb yn unfrydol yn erbyn y datblygiad,” meddai Elin Mabbut, sy’n byw yn lleol ac yn un o drefnwyr y cyfarfod.

“Mae shwt gymaint o resymau pam dyle nhw ail-ystyried ac ail-edrych ar y lleoliad…

“Mae tri o blant da fi, maen nhw’n mwynhau mynd allan yno i chwarae, rwy’n gwybod eu bod nhw’n sâff yno, reit ar bwys y tŷ gyda phlant eraill o’r gymdogaeth.

“Mae’n mynd i greu problemau o ran traffig,” meddai, “pobl yn cerdded, mae Rhiw Briallu yn serth ofnadwy – dyw e ddim yn sâff.

“Hefyd mae llifogydd wedi bod yn broblem yn Llanbadarn, ac wrth gwrs, i lawr eith y dŵr a gwneud y broblem lifogydd yn waeth.

“O ran yr ochr amgylcheddol,” meddai, “mae o’n mynd i gael effaith anferth ar y tirlun yn Aberystwyth a’r cyffiniau wrth adeiladau’r holl dai hyn.

“Bydde fe’n golled fawr i’r ardal.”

Concrete dros ddarn arall o dir gwyrdd”

Ychwanegodd ei bod yn llwyr gydnabod fod angen darparu cartrefi fforddiadwy ond teimlai bod y wybodaeth sy’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r cais hwn wedi dyddio.

“Mae’r wybodaeth a’r data ac ati wedi ei selio ar wybodaeth llawr o flynyddoedd yn ôl,” meddai, “ac mae poblogaeth yr ardal wedi newid.

“Mae rhifau myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cwympo, mae nifer y staff sy’n gweithio yn y Brifysgol a’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cwympo – sef rhai o gyflogwyr mwyaf yr ardal.

“Mae digon o safleoedd eraill yn wag ac sydd angen cael eu datblygu, byddai’n well addasu’r rheini, yn hytrach nag rhoi concrete dros ddarn arall o dir gwyrdd.

“Dyw e ddim yn gwneud synnwyr ac mae’n anodd deall pam eu bod nhw mor adamant eu bod nhw moyn gwneud e.

Dywedodd ei bod yn “erfyn ar y Cyngor i ail-edrych ar ail-ystyried y safle” ac yn annog unrhyw un sy’n gwrthwynebu i wneud hynny’n swyddogol.

“Mae yna lot o ofidiau yn lleol”

Mae’r Cynghorydd dros ward gyfagos Llanbadarn Fawr, Gareth Davies, hefyd wedi gwrthwynebu’r cais cynllunio, ar sail pryderon yn ymwneud yn bennaf a llifogydd a thrafnidiaeth.

“Un peth arall mae pobol leol â phryder [yn ei gylch],” meddai, “yw bod yr holl beth yn cael ei wthio drwyddo yn rhy sydyn a’u bod nhw ddim yn cael amser i drafod gyda’i gilydd – dyna un o’r gofidion eraill.”

Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion:

“Mae’r Cyngor yn ystyried y cais presennol a bydd yn ystyried yr ymatebion a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, ochr yn ochr â pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol, a dynodi’r safle i’w ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol.”